Daniel James | |
---|---|
Ganwyd | Daniel Owen James 10 Tachwedd 1997 Kingston upon Hull |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Taldra | 171 centimetr |
Pwysau | 66 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | C.P.D. Dinas Abertawe, Shrewsbury Town F.C., Manchester United F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 21 oed |
Safle | hanerwr asgell |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Pêl-droediwr proffesiynol yw Daniel Owen James (ganwyd 10 Tachwedd 1997) sy'n chwarae fel asgellwr i Fulham, ar fenthyg o Leeds United a thîm cenedlaethol Cymru. Gall James chwarae fel asgellwr, a hefyd fel chwaraewr canol cae ymosodol.[1]
Gwnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf i Ddinas Abertawe ym mis Chwefror 2018 a'i ymddangosiad cyntaf dros Gymru ym mis Tachwedd 2018. Roedd eisoes wedi cynrychioli Cymru ar wahanol lefelau ieuenctid. Sgoriodd ei gôl gyntaf i Gymru yn erbyn Slofacia ar 24 Mawrth 2019 mewn gêm ragbrofol Ewro 2020 a enillodd Cymru 1-0.
Wedi cyfnod addawol iawn gydag Academi Dinas Hull, ymunodd James â Dinas Abertawe yn 2014 am ffi gychwynnol o £72,000,[2] gan ymuno'n syth â'r academi dan-18. Erbyn tymor 2016-17, roedd James wedi dod yn rhan annatod o'r tîm dan-23 Abertawe a enillodd ddyrchafiad i Adran Gyntaf PDL wedi iddynt ennill y gynghrair o 11 pwynt. Yn ogystal â hynny, bu James yn aelod o'r tîm a enillodd gwpan yr Uwch Gynghrair, gan gyrraedd rowndiau cynderfynol Cwpan Rhyngwladol yr Uwch Gynghrair a rowndiau go-gyn-derfynol Tlws EFL.
Yn dilyn perffomiadau disglair yn y garfan ddatblygu,[3] cafodd James ei gynnwys yng ngharfan y tîm cyntaf am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2016 pan trechwyd Abertawe yng Nghwpan yr FA gan Oxford United.[4] Er na ddaeth James oddi ar y fainc, ystyriwyd bod ei gynnydd yn ddigonol iddo gael cynnig cytundeb newydd am dair blynedd yr wythnos ganlynol.[5] Cafodd ei enwi ar y fainc ym mis Hydref 2016 mewn gêm Uwch Gynghrair yn erbyn Stoke City.[1]
Ar 30 Mehefin 2017, ymunodd James â chlwb Shrewsbury Town ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.[6] Cafodd ei gytundeb ei derfynu drwy gydsyniad ar 31 Awst 2017 ar ôl iddo fethu â chael lle yn yr 11 cyntaf.[7] Unwaith yn unig y cafodd James ei gynnwys mewn carfan diwrnod gêm, a hynny fel eilydd na chafodd ei ddefnyddio mewn gêm gwpan rownd gyntaf Cwpan EFL yn erbyn Nottingham Forest.[8]
Ar 6 Chwefror 2018, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i dîm Abertawe fel eilydd hwyr, a sgoriodd ar ôl 82 o funudau mewn buddugoliaeth o 8–1 dros Notts County yng Nghwpan FA.[9]
Chwaraeodd ei gêm gynghrair gyntaf dros Abertawe ar 17 Awst 2018 mewn gêm gyfartal 0-0 yn erbyn Birmingham City ym Mhencampwriaeth EFL.[10] Sgoriodd ei gôl gynghrair gyntaf i'r clwb ar 24 Tachwedd 2018 mewn buddugoliaeth gartref o 4–1 yn erbyn Norwich City.[11] Erbyn mis Rhagfyr 2018, roedd James yn chwaraewr oedd yn disgleirio'n gyson i Abertawe,[12] a chyhoeddodd y rheolwr, Graham Potter, fod y clwb yn bwriadu dechrau trafodaethau am gytundeb newydd.[13] Er gwaethaf sôn am symud i Leeds United yn ystod ffenestr drosglwyddo Ionawr 2019,[14][15] enwyd James yn nhîm Abertawe oedd yn cychwyn y gêm yn erbyn Birmingham City ar 29 Ionawr, a sgoriodd ei ail gôl o'r tymor mewn gêm gyfartal 3– 3.[16]
Ar 31 Ionawr 2019, gyda James wedi mynegi ei ddymuniad i adael Abertawe i ymuno â Leeds United, cytunwyd ar ffi strwythuredig o £10 miliwn rhwng y ddau glwb, cytunodd James ar delerau a chymryd y profion meddygol yn Leeds,[17] ac roedd yn Elland Road yn cael cyfweliadau a'i lluniau wedi'u tynnu cyn i'r cytundeb gael ei gymeradwyo.[18] Fodd bynnag, ar ôl sôn am anghytundeb rhwng perchnogion Abertawe a'u cadeirydd, gadawyd James yn Elland Road yn disgwyl i'r cytundeb gael ei lofnodi pan gaeodd y ffenestr drosglwyddo am 11pm.[19]
Ar 6 Mehefin 2019 cafodd James brofion meddygol gyda chlwb Manchester United ar gyfer ei drosglwyddiad am ffi o £15m gyda rhai ychwanegiadau.[20] Ar 7 Mehefin, cyhoeddodd United eu bod wedi cytuno ar delerau 'mewn egwyddor' gydag Abertawe.[21]
Yn enedigol o Swydd Efrog, Lloegr, mae James yn gymwys i chwarae dros Gymru trwy ei dad, Kavan,[22] a aned yn Aberdâr.[3] Sgoriodd James dros dîm dan-20 Cymru mewn buddugoliaeth 1-0 yn erbyn Bahrain U20 yn Nhwrnamaint Toulon.[23]
Cafodd James ei alwad gyntaf i chwarae dros dîm cyntaf Cymru ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan FIFA y Byd 2018 yn erbyn Serbia yn 2017[10] a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng Nghymru dan Ryan Giggs mewn gêm yn erbyn Albania ym mis Tachwedd 2018, gan chwarae 58 munud cyntaf y gêm.[24] Sgoriodd James ei gôl gyntaf dros Gymru yn ei ail gêm, gan rwydo'r unig gôl yn y gemau agoriadol yn erbyn Slofacia. Hwnnw oedd ei ymddangosiad cyntaf mewn gêm gartref gystadleuol.[25]
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)