Decebalus | |
---|---|
Ganwyd | 1 g |
Bu farw | 106 o gwaediad Bălcești |
Dinasyddiaeth | Dacia |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | brenin Dacia |
Tad | Scorilo |
Roedd Decebalus, enw gwreiddiol Diurpaneus (bu farw 106), yn frenin Dacia o 87 hyd ei farwolaeth.
Wedi marwolaeth y brenin Burebista, ymrannodd Dacia yn nifer o wladwriaethau bychain. Llwyddodd Diurpaneus i'w hail-uno ac ail-drefnu'r fyddin, ac yn 85 ymosododd y Daciaid ar dalaith Rufeinig Moesia, i'r de o Afon Donaw. Yn 87, gyrrodd yr ymerawdwr Domitian fyddin dan Cornelius Fuscus, pennaeth Gard y Praetoriwm, i gosbi'r Daciaid. Gorchfygodd Diurpaneus hwy mewn brwydr ger Tapae (Bucova heddiw), a lladdwyd Fuscus. Newidiodd Diurpaneus ei enw i Decebalus, sy'n golygu "cryfder deg".
Yn ôl yr hanesydd Dio Cassius, roedd Decebalus yn gadfridog galluog. Yn 88, gyrrwyd byddin arall dan Tettius Iulianus yn ei erbyn, ond gorchfygwyd yntau, a bu raid i'r Rhufeiniaid brynu heddwch trwy roi swm mawr o arian i'r Daciaid.
Pan ddaeth Trajan yn ymerawdwr yn 98, dechreuodd ymgyrch yn erbyn Decebalus. Gorchfygwyd y Daciaid yn 101, ond cadwyd Decebalus yn frenin dan awdurdod Rhufain. Dair blynedd yn ddiweddarach, gwrthryfelodd, a dinistriodd y milwyr Rhufeinig yn Dacia. Gyrrwyd byddin arall, ac wedi gwarchae hir ar Sarmizegetusa a brwydr, gorchfygwyd Decebalus. Lladdodd ef ei hun yn hytrach na chael ei gymeryd yn garcharor.