Enghraifft o: | grŵp o bobl, literary group |
---|
Llên Lloegr yn yr 20fed ganrif |
---|
Y ddrama |
Mudiadau a grwpiau |
|
Grŵp o ddramodwyr a nofelwyr dosbarth gweithiol a dosbarth canol Prydeinig a ddaeth i amlygrwydd yn ystod y 1950au oedd y "dynion ifanc dig" (Saesneg: Angry young men). Roedd prif aelodau'r grŵp yn cynnwys John Osborne a Kingsley Amis. Yn wreiddiol, crëwyd yr enw gan swyddog y wasg y Royal Court Theatre er mwyn hyrwyddo Look Back in Anger gan John Osborne. Credir i'r term darddu o hunangofiant Leslie Paul, sefydlydd y Woodcraft Folk, a gyhoeddodd Angry Young Man ym 1951. Yn dilyn llwyddiant drama Osborne, defnyddiodd y wasg Brydeinig y term i ddisgrifio ysgrifenwyr Prydeinig ifanc a oedd yn ddadrithiedig gyda'r gymdeithas draddodiadol Seisnig.