Edward Carpenter | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 29 Awst 1844 ![]() Hove ![]() |
Bu farw | 28 Mehefin 1929 ![]() Surrey ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, athronydd, llenor ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur ![]() |
Mudiad | libertarian socialism ![]() |
llofnod | |
![]() |
Bardd sosialaidd, athronydd ac anthropolegydd cynabyddedig o Loegr oedd Edward Carpenter (29 Awst 1844 – 28 Mehefin 1929). Mae'n fwyaf nodedig am ei lyfr Civilisation, Its Cause and Cure (1889).
Cafodd Edward Carpenter ddylanwad mawr ar ewythr a thad y bardd o Gymro, Waldo Williams, ac ar Waldo ei hun. Roedd Carpenter yn un o brif sefydlwyr y Blaid Lafur Annibynnol. Roedd yn gyfaill i Rabindranath Tagore a Walt Whitman.[1] Cyfatherbai gyda Annie Besant, Isadora Duncan, Havelock Ellis, Roger Fry, Mahatma Gandhi, Keir Hardie, William Morris, Edward R. Pease a John Ruskin.[2]
Fel athronydd caiff ei gofio'n bennaf am ei gyfrol Civilisation, Its Cause and Cure (1889) ble mae'n awgrymu mai math o afiechyd yw gwareiddiad.[3] Llyfr arall dylanwadol ar Waldo Williams oedd The Healing of Nations and the Hidden Sources of their Strife (1915).
Credai'n gryf mewn "rhyddid rhyw" a dylanwadodd ar D. H. Lawrence, Sri Aurobindo, ac ysbrydolodd nofel E. M. Forster Maurice.[4]