Edward Schillebeeckx | |
---|---|
Portread o Edward Schillebeeckx ym 1979. | |
Ganwyd | 12 Tachwedd 1914 Antwerp |
Bu farw | 23 Rhagfyr 2009 Nijmegen |
Dinasyddiaeth | Gwlad Belg |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | diwinydd, academydd, llenor, offeiriad Catholig |
Cyflogwr | |
Perthnasau | Ward Leemans |
Gwobr/au | Gwobr Erasmus, Gouden Ganzenveer, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Laval, honorary doctor of the Katholieke Universiteit Leuven |
Diwinydd Catholig o Wlad Belg oedd yn un o ffigurau blaenllaw Ail Gyngor y Fatican oedd Edward Cornelis Florentius Alfonsus Schillebeeckx (12 Tachwedd 1914 – 23 Rhagfyr 2009).[1] Yn ôl yr offeiriad ac athro Robert Schreiter, Schillebeeckx oedd yr ysgolhaig Catholig cyntaf i ymdrin mewn difrif â'r holl ymchwil i'r Iesu hanesyddol a'i gyflwyno mewn modd dealladwy ac eglur.[2]
Ysgrifennodd weithiau academaidd oedd yn arddel safbwyntiau blaengar ar Gristnogaeth ac yn cwestiynau rhai o athrawiaethau'r Eglwys Gatholig. Ym 1979 cafodd ei alw i'r Fatican am y tro cyntaf i ateb am ei gred a phrofi ei bod yn gyson â'r ddysgeidiaeth Gatholig. Cafodd ei gwestiynu eto yn y 1980au am ei farnau ar Iesu a'r atgyfodiad, ac am ei ddealltwriaeth o'r offeiriadaeth. Ni chafodd ei gyhuddo'n swyddogol neu ei chael yn euog gan yr un ymchwiliad.
Ganwyd Edward Cornelius Florentius Schillebeeckx i deulu o Ffleminiaid Catholig yn ninas Antwerp ar 12 Tachwedd 1914. Roedd yn y chweched o 14 o blant. Cyfrifydd oedd ei dad a dyn crefyddol oedd yn cymryd ei deulu i'r Offeren pob diwrnod am hanner wedi chwech y bore, ac yn ymgroesi talcenni'r plant pob nos cyn iddynt mynd i gysgu. Mynychodd y naw brawd ysgol yr Iesuwyr, ond nid oedd Edward yn hoff o lymder a ffurfioldeb y drefn Iesuaidd.[3]
Wedi iddo adael yr ysgol Iesuaidd, penderfynodd Edward i ymuno ag Urdd y Dominiciaid ym 1934.[4] Treuliodd ei nofyddiaeth yn Ghent, ac astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Louvain am dair blynedd. Yno bu'n darllen Kant, Hegel, a Freud, er yr oeddent i gyd yn weithiau a waharddid yn swyddogol gan yr Eglwys.[3] Darllenodd hefyd weithiau'r diwinydd Karl Adam a'r Iesuwr Pierre Rousselot, gan feithrin meddwl Schillebeeckx ar brofiad dynol yr Iesu a'r traddodiad patristig.[5] Cafodd ei alw i'r fyddin ym 1938, ond treuliodd y mwyafrif o'i amser yn astudio. Ar ôl un flwyddyn, cafodd ei ganiatáu i ddychwelyd i Louvain. Dechreuodd yr Ail Ryfel Byd ar yr un adeg a chafodd ei alw'n ôl i'r fyddin, ond llwyddodd y lluoedd Almaenig i drechu'r Belgiaid yn gyflym. Dychwelodd Schillebeeckx i Louvain felly ym 1941 i gychwyn ar ei gwrs i gael ei ordeinio'n offeiriad. Pan gwblhaodd ei astudiaethau ym 1943, penodwyd yn ddarlithydd ar bwnc diwinyddiaeth ddogmataidd. Treuliodd dwyflwydd o 1946 i 1948 yn astudio yn y Sorbonne ac enillodd ddoethuriaeth o'r ysgol Ddominicaidd Le Saulchoir. Yno bu'n cwrdd ag Albert Camus[3] a chafodd ei ddylanwadu gan fudiad y nouvelle théologie. Dysgodd dan yr Athro Marie-Dominique Chenu, diwinydd oedd yn barod wedi ei feirniadu gan y Fatican, a magodd cyfeillgarwch ag Yves Congar.[1]
Dychwelodd unwaith eto i addysgu yn Louvain a gweithiodd fel caplan i'r carchar lleol a phregethodd mewn eglwysi ym mhentrefi'r cylch. Cafodd peth anghytundeb gydag awdurdodau'r brifysgol, yn enwedig wedi iddo dywys dau fws llawn myfyrwyr i oror Dwyrain yr Almaen i gyfarfod gweinidog Lwtheraidd oedd yn gweithio gyda ffoaduriaid. Lledaenodd enw Schillebeeckx ymhlith academyddion crefyddol gorllewin Ewrop, a chafodd ei wahodd i ddarlithio mewn prifysgolion eraill ac i ysgrifennu erthyglau am ddiwygio'r Eglwys ar gyfer cyfnodolion Iseldireg. Penodwyd yn athro Dogmateg ac Hanes Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Nijmegen ym 1958, a symudodd i fyw gyda'r Dominiciaid yn adeilad yr Albertinum.[3]
Ychydig cyn agor Ail Gyngor y Fatican ym 1962, Schillebeeckx oedd prif awdur y llythyr a gyhoeddwyd gan esgobion Iseldiraidd yn galw am ddiwygio'r Eglwys Gatholig a chwtogi grymoedd y Fatican. Yn y llythyr hwn, disgwylid y mwyafrif o newidiadau blaengar y Cyngor ar bynciau megis y litwrgi, eciwmeniaeth, a swyddogaethau'r lleygwyr. O ganlyniad, ni wahoddwyd Schillebeeckx i fod yn gynghorwr swyddogol (peritus neu arbenigwr) i'r Cyngor, ond teithiodd i Rufain gyda'r esgobion Iseldiraidd i'w cynghori ar faterion diwinyddol. Am dair blynedd bu Schillebeeckx yn darlithio i esgobion o bedwar ban byd gan ymateb i ddogfennau a thrafodaethau'r Cyngor. Roedd Schillebeeckx yn un o garfan o ysgolheigion Ewropeaidd a siaradodd o blaid newid yn yr Eglwys, a gafodd cryn ddylanwad ar gynigion y Cyngor: dywed ar y pryd bod "y Rhein wedi llifo i'r Tiber".[3] Gweithiodd gyda'r Cardinal Bernard Alfrink, Archesgob Utrecht, i bwysleisio natur golegol yr esgobyddiaeth i wrthbwyso athrawiaeth anffaeledigrwydd y Pab a gyhoeddid gan Gyngor Cyntaf y Fatican (1869–70). Adlewyrchir y farn hon gan Lumen gentium, neu Gyfansoddiad Dogmataidd yr Eglwys, un o brif ddogfennau'r cyngor. Lansiodd Schillebeeckx a'i gyfoedion Hans Küng, Karl Rahner a Yves Congar y cyfnodolyn diwinyddol Concilium, oedd yn mynegi syniadau'r blaengarwyr am flynyddoedd i ddod.
O safbwynt Schillebeeckx, roedd y Cyngor yn fan dechrau ar broses o ddiwygio sylweddol yn yr Eglwys Gatholig.Ymhlith ei farnau a aeth yn bellach na newidiadau'r Cyngor oedd ei gefnogaeth dros ordeinio dynion a menywod priod a threfnau democrataidd yng ngweinyddiaeth eglwysig.[4] Yr Iseldiroedd oedd y wlad fwyaf flaengar yn y byd wrth roi cynigion y Cyngor ar waith, yn aml o ganlyniad i waith a dylanwad Schillebeeckx.[2] Schillebeeckx oedd un o awduron y Catecism Iseldiraidd Newydd, a gyhoeddwyd ym 1966.
Trwy gydol y 1970au, ysgrifennodd Schillebeeckx lwyth o ysgrifau academaidd oedd yn cwestiynu darlleniad tra-lythrennol y Testament Newydd. Er enghraifft, amheuodd bod dysgeidiaeth yr Eglwys ar yr enedigaeth wyryfol a'r atgyfodiad yn berthnasol i fywyd y Catholig modern. Ym 1979 cafodd ei alw i'r Fatican am y tro cyntaf i ateb am ei gred a phrofi ei bod yn gyson â dysgeidiaeth eglwysig. Cymharodd Schillebeeckx ei brofiad â'r bachgen drwg yn cael ei anfon i ystafell y prifathro.[1] Cytunodd i deithio i'r Fatican i egluro'i farnau i'r Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd. Cyhuddwyd Schillebeeckx o wyro oddi ar athrawiaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig, a pharodd ei wrandawiad am bedair diwrnod yn Rhagfyr 1979, o flaen pedwar swyddog o'r Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd: y Parchedig Jean Galot, Iesüwr o Ffrancwr; Monsingor Alberto Bovone, is-ysgrifennydd y Cynulliad; yr Esgob Albert Descamps o Brifysgol Gatholig Louvain-la-Neuve; a'r Parchedig Albert Patfoort, athro diwinyddiaeth yr Angelicum yn Rhufain.[6] Canolbwyntiodd yr ymchwiliad yn bennaf ar ei ymdrechion yn ei ddau lyfr ar bwnc Cristoleg, Jezus, het verhaal van een levende ("Iesu, arbrawf mewn Cristoleg"; 1974) a Gerechtigheid en liefde, genade en bevrijding ("Cyfiawnder a chariad, trugaredd a gwaredigaeth"; 1977), i gysylltu neges yr efengyl â'r profiad modern. Tua'r un adeg, derbyniodd ei hen gyfaill yr Athro Hans Küng o Brifysgol Tübingen ŵys gan y Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd, ond gwrthododd Küng i deithio i'r Fatican i amddiffyn ei hunan gan alw'r fath ymchwiliad yn "dreial o'r Oesoedd Canol". O ganlyniad, collodd Küng ei drwydded eglwysig i addysgu diwinyddiaeth mewn prifysgolion Catholig.[1] Bu'r ymchwiliadau yn erbyn Schillebeekx, Küng, a diwinyddion eraill megis Jacques Pohier a Bernhard Hasler yn digio nifer o glerigwyr rhyddfrydol – a ofnasant y byddai pabaeth Ioan Pawl II, a etholwyd ym 1978, yn dychwelyd at Gatholigiaeth dra cheidwadol – ac yn ennyn gwrthwynebiad gan offeiriaid ar draws Ewrop a'r Unol Daleithiau. Cafodd Schillebeeckx ei gefnogi yn gyhoeddus gan y Cardinal Johannes Willebrands, Archesgob yr Holl Iseldiroedd.[6] Llwyddodd Schillebeeckx i wrthsefyll yr ymchwiliad a dychwelodd i'w waith yn Nijmegen. O bosib, penderfynodd y Fatican i beidio â chondemnio Schillebeeckx yn swyddogol oherwydd roedd yr ymchwiliad yn erbyn yr Athro Küng yn denu sylw annymunedig.[3]
Cafodd Schillebeeckx ei alw'n ôl i'r Fatican yng Ngorffennaf 1984 wedi iddo gefnogi hawl y lleygwr i gysegru'r Cymun yn lle'r offeiriad mewn amodau eithriadol. Cefnogwyd gan Damian Byrne, pennaeth y Dominiciaid, wrth i'r Cardinal Joseph Ratzinger (yn ddiweddarach, Pab Bened XVI) ei gwestiynu. Cytunodd Schillebeeckx i beidio sôn am offeiriadaeth leyg mewn ysgrifeniadau'r dyfodol, er mwyn osgoi cerydd swyddogol gan yr Eglwys.[1] Cafodd ei gwestiynu eto ym 1985 am ei farnau ar Iesu a'r atgyfodiad, ac ym 1986 am ei ddealltwriaeth o'r offeiriadaeth. Casgliad amhendant oedd i bob un ymchwiliad, a derbyniodd Schillebeeckx gwynion a rhybuddion yn unig. Ni chafodd ei gyhuddo'n ffurfiol neu ei gael yn euog gan yr un ymchwiliad.[2][4] Yn ôl yr Athro Küng, llwyddodd Schillebeeckx i osgoi cosb oherwydd nad oedd yr un aelod o'r Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd yn medru'r Iseldireg ddigon i allu darllen ei waith cymhleth.[1][3]
Yn y 1970au ysgrifennodd ar amrywiaeth o faterion cymdeithasol a gwleidyddol, yn enwedig arfau niwclear, ac ymddiddorodd yn niwinyddiaeth rhyddhad American Ladin. Addysgodd yn Nijmegen hyd iddo ymddeol ym 1982. Yn yr un flwyddyn, Schillebeeckx oedd y diwinydd cyntaf i dderbyn Gwobr Erasmus am gyfraniadau i ddiwylliant Ewrop,[7] ac ym 1983 cafodd ei urddo'n Gadlywydd Urdd Oranje-Nassau. Treuliodd gweddill ei oes yn byw yn Nijmegen, a pharhaodd i ysgrifennu ar faterion crefyddol yn ei naw degau. Cafodd llai o ddylanwad ar arweinyddiaeth geidwadol newydd yr Eglwys Iseldiraidd, ond parhaodd yn ddiwinydd poblogaidd gan ddiwygwyr ar draws y byd. Ym 1989 roedd Schillebeeckx yn un o 163 o ddiwinyddion, y mwyafrif ohonynt o Orllewin yr Almaen, a arwyddodd Ddatganiad Cwlen. Roedd y datganiad hwn yn beirniadu'r Pab Ioan Pawl II am ei bolisïau ceidwadol.[1] Pan gaeodd yr Albertinum, symudodd Schillebeeckx i fyw mewn fflat a chafodd ei ofalu gan leian ar ddiwedd ei oes.[3]
Hyrwyddodd Schillebeeckx ddiwinyddiaeth bersonol a bugeiliol sydd yn ystyried profiadau'r crediniwr yn hytrach na chysyniadau haniaethol. Ceisiodd gysylltu dysgeidiaeth draddodiadol yr Eglwys â phrofiadau cyfoes, er ffydd fyw sydd yn berthnasol i'r werin. Parchodd y feirniadaeth Feiblaidd fodern a wnaed gan ymchwilwyr anghatholig, a defnyddiodd ddulliau beirniadaeth hanesyddol yn ei waith. Ysgrifennodd Schillebeeckx mwy na 400 o weithiau diwinyddol sydd yn trafod ysgrythur, hanes crefyddol, ac athrawiaeth eglwysig. Ymhlith ei lyfrau pwysicaf mae'r triawd ar Iesu (1974), Crist (1977), a'r Eglwys (1990). Gwelir ei arddull lenyddol yn ddwys ac yn anodd, ond roedd hefyd ganddo fedr y gymhariaeth a'r stori eglurol.[3]
Gellir leoli diwinyddiaeth Schillebeeckx a'r blaengarwyr eraill yng nghyd-destun etifeddiaeth Cyngor Cyntaf y Fatican. Adwaith oedd yr Ail Gyngor i'r ddysgeidiaeth neo-ysgolaidd a fabwysiadwyd gan yr Eglwys yn y ganrif gynt i wrthsefyll syniadau a mudiadau seciwlar a datblygiadau a welid yn wrthwynebus i'r ffydd Gatholig. Pwysleisiodd Schillebeeckx yr angen i ystyried athroniaeth Tomos o Acwin a'r ysgolwyr eraill yng nghyd-destun yr Oesoedd Canol. Felly, yn lle athrawiaethau tra-geidwadol a diamod y Cyngor Cyntaf, disgrifiodd Schillebeeckx ffurf lai rhesymolaidd a chysyniadol ar Domistiaeth. Manteisiodd Schillebeeckx ar ddatblygiadau athronyddol yr 20g, yn enwedig ffenomenoleg, yn ei ddiwinyddiaeth. O'i ddealltwriaeth o'r ymwybod a chyd-destun hanesyddol daw pwyslais Schillebeeckx ar brofiad y crediniwr modern.[4]