Ernest Jones | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1 Ionawr 1879 ![]() Tre-gŵyr ![]() |
Bu farw | 11 Chwefror 1958 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | seiciatrydd, seicdreiddydd, niwrolegydd ![]() |
Cyflogwr | |
Priod | Morfydd Llwyn Owen ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain ![]() |
Roedd Alfred Ernest Jones (1 Ionawr 1879 – 11 Chwefror 1958) yn seiciatrydd o Gymru a wnaeth y mwyaf i boblogeiddio gwaith Sigmund Freud yn Saesneg. Ei awgrym ef sbardunodd y gyngres seicdreiddiol ryngwladol gyntaf lle darllenodd ei bapur enwog ar resymoli. Cyflwynodd dystiolaeth i'r BMA a arweinodd at eu hawgrym y dylid trin seicdreiddiaeth fel triniaeth ddilys. Ffurfiodd y Gymdeithas Seicdreiddiol Brydeinig, a'r Sefydliad Seicdreiddiol, a chychwynnodd y clinig seicdreiddiol cyntaf yng ngwledydd Prydain. Sylfaenydd Lyfrgell Seicdreiddiol Rynglwladol a'r International Journal of Psycho-Analysis. Bu'n arweinydd rhyngwladol y mudiad seicdreiddiol am flynyddoedd lawer.[1]
Fe'i ganwyd yn Nhre-gŵyr, ger Abertawe[2], ac addysgwyd ef yn gyntaf yn Ysgol Ramadeg Abertawe ac yna yng Nghaerdydd ac Ysbyty Coleg y Brifysgol, Llundain lle graddiodd yn feddyg yn 1901. Ym 1907, tra yn Wien, daeth yn ddisgybl i'r seicolegydd enwog Freud. Gadawodd y cyfandir ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a dychwelodd i Lundain, lle sefydlodd y Gymdeithas Seicoanalytig Brydeinig ym 1919. Pan y bu rhaid i Freud adael Awstria yn sgil yr Anschluss ym 1938, bu Ernest Jones yn gymorth i'w ryddhau o ddwylo'r Natsiaid ac yna ei gynorthwyo i sefydlu yn Llundain yn ei flwyddyn diwethaf cyn ei farwolaeth ym 1939.[angen ffynhonnell]
Roedd Ernest Jones hefyd yn ymddiddori yng ngwleidyddiaeth ac yn aelod cynnar o Blaid Cymru. Ei wraig gyntaf oedd y cyfansoddwraig Morfudd Llwyn Owen a briododd yn 1917 ac yna Katherine Jokl yn 1919. Ei lyfr sylweddol diwethaf oedd bywgraffiaeth swyddogol Freud, 'Sigmund Freud, Bywyd a Gwaith, 1954 - 1957'.[angen ffynhonnell]
Roedd yn un o aelodau cynnar Plaid Cymru ac yn gwaredu nad oedd yn rhugl yn y Gymraeg.[1]