George Ivatt | |
---|---|
Ganwyd | 4 Mai 1886 Dulyn |
Bu farw | 4 Hydref 1972 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | peiriannydd |
Tad | Henry Ivatt |
Priod | Dorothy Sarah Harrison |
Roedd Henry George Ivatt (4 Mai 1886 – 4 Hydref 1972)[1] yn Brif Peiriannydd Rheilffordd Llundain, y Canolbarth a’r Alban, ac yn fab i Henry Ivatt, Peiriannydd Rheilffordd y Great Northern. Ganwyd George ar 4 Mai 1886 yn Nulyn ac addysgwyd yn Ysgol Uppingham, Lloegr.[2]
Bu farw ym Melbourne, Awstralia.
Daeth o’n brentis yng Ngweithdy Cryw Rheilffordd Llundain a’r Gogledd-Orllewin ym 1904. Gweithiodd yn y Swyddfa Arlunio a daeth o’n bennaeth Gwaith Arbrofol ar Locomotifau. Daeth o’n ben-gweithiwr cynorthwyol yn nepo Gogledd Cryw ym 1909, ac ym 1910 arsylwydd cynorthwyol peirianwaith allanol. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd o’n aelod o staff y Cyfarwyddor Trafnidigaeth yn Ffrainc. Daeth o’n cynorthwyydd y Rheilffordd Gogledd Swydd Stafford ym 1919.
Daeth y Rheilffordd Gogledd Swydd Stafford yn rhan o Reilffordd Llundain, y Canolbarth a’r Alban ym 1923. Trosglwyddwyd Ivatt i Derby ym 1928 a daeth o’n oruwchwilydd y gweithdy locomotifau ym 1931. Symudodd i Glasgow ym 1932 i fod yn Beriannydd Adrannol yr Alban. Daeth o’n ôl i Loegr i fod yn Brif Cynorthwyydd i Syr William Stanier.[3] Ymddeolodd Stanier ym 1944 a chymerodd Charles Fairburn ei le. Bu farw Fairburn ym mis Hydref 1945, a cymerodd Ivatt ei le ar 1 Chwefror 1946. Ar ôl y rhyfel, aeth Ivatt ymlaen gyda estyn sawl dosbarth; Adeiladwyd 2 locomotif dosbarth ‘Princess Coronation’ a sawl dosbarth 5MT, ac ailadeiladodd locomotifau dosbarth ‘Royal Scot’ a ‘Patriot’. Cynlluniodd locomotif Dosbarth Ivatt 2MT 2-6-0 a locomotifau Dosbarth Ivatt 2-6-2T a hefyd Dosbarth NCC WT 2-6-4T ar gyfer Rheilffordd y Northern Counties Committee yng Ngogledd Iwerddon. Cynlluniodd hefyd locomotifau diesel Dosbarth D16/1 10000 a 10001’. Ym 1948, daeth o’n Prif Peiriannydd Locomotifau’r Rhanbarth Llundain a’r Canolbarth hyd at ei ymddeoliad ym 1951.
Daeth o’n ymgynghorydd a chyfarwyddwr gyda’r cwmni, ac yn hwyrach rheolwr cyffredinol. Daeth o’n ymddeol fel cyfarwyddwr ym 1957 a fel ymgynghorwr ym 1964. Wedyn, daeth o’n cyfarwyddwr o Brush Traction a gweithiodd ar gynllunio’r locomotif diesel Brush Type 2.[4]