Geraint Talfan Davies

Geraint Talfan Davies
Ganwyd30 Rhagfyr 1943 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, cyfarwyddwr cwmni Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadAneirin Talfan Davies Edit this on Wikidata
PlantRhodri Talfan Davies Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain Edit this on Wikidata

Cadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru yw Geraint Talfan Davies OBE DL (ganwyd 30 Rhagfyr 1943). Mae'n un o gyd-sefydlwyr y Sefydliad Materion Cymreig ac roedd yn gadeirydd ar y corff rhwng 1992 a 2014. Fe'i hyfforddwyd fel newyddiadurwr, cyn symud i fyd darlledu lle bu'n rheolwr BBC Cymru rhwng 1990 a 2000.

Bywyd personol ac addysg

[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd yng Nghaerfyrddin, yn fab i Mary Anne Davies (m.1971) ac Aneirin Talfan Davies (m. 1980) a oedd yn ddarlledwr, bardd a adolygydd llenyddiaeth.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Esgob Gore, Abertawe a Ysgol Uwchradd Fechgyn Caerdydd, fe aeth ymlaen i astudio Hanes Fodern yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, gan raddio yn 1966. Yn 1967 fe briododd Elizabeth Siân Vaughan Yorath, ac mae ganddo dri o feibion.

Dechreuodd ei yrfa fel newyddiadurwr dan hyfforddiant gyda phapur newydd y Western Mail yng Nghaerdydd, lle ddaeth yn Ohebydd Materion Cymreig cyntaf y papur. Yn 1971 symudodd i bapur newydd The Journal yn Newcastle upon Tyne, gan symud i'r Times yn Llundain yn 1973 lle weithiodd am flwyddyn, cyn dychwelyd i'r Western Mail yn 1974 fel Golygydd Cynorthwyol.

Yn 1978, symudodd i fyd darlledu fel pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes gyda HTV Wales, gan ddod yn reolwr cynorthwyol rhaglenni yn 1982.

Fe ddychwelodd i Newcastle upon Tyne yn 1987, fel cyfarwyddwr rhaglenni ar gyfer Tyne Tees Television. Yn 1990, dychwelodd i Gaerdydd, i ddechrau swydd fel rheolwr BBC Cymru, oedd yn cynnwys cyfrifoldeb dros holl weithgareddau radio a theledu'r BBC yng Nghymru ynghyd â Cherddorfa Genedlaethol y BBC. Fe ymddeolodd o'r BBC yn 2000, yn 57 oed.[1] Fe'i olynwyd gan Menna Richards. Fe apwyntiwyd ei fab, Rhodri Talfan Davies, yn gyfarwyddwr BBC Cymru yn 2011.

Swyddi nodedig

[golygu | golygu cod]

Mae Geraint Talfan Davies wedi ymwneud â nifer o sefydliadau celfyddydol, cyfryngol ac addysgiadol, yn cynnwys y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Ymddiriedolaeth Celf Bae Caerdydd, Gŵyl Ffilm Rhyngwladol Cymru, Gwobr Celf Weledol Artes Mundi, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru a Opera Cenedlaethol Cymru.

Fe gadeiriodd Opera Cenedlaethol Cymru (OCC) am dair blynedd, cyn ei apwyntiad yn 2003 i gadeirio Cyngor Celfyddydau Cymru. Fe ddaeth ei benodiad yn CCC ei dorri'n fyr yn 2006 pan, yn dilyn gwrthwynebiad llwyddiannus y Cyngor i gynlluniau Llywodraeth Cymru i gymeryd cyfrifoldeb am y prif sefydliadau celf cenedlaethol, ni wnaeth y Gweinidog Diwylliant, Alun Pugh, adnewyddu ei apwyntiad am ail derm.[2] Yn dilyn hyn fe'i ail-etholwyd yn gadeirydd yr OCC.[3]. Mae hefyd yn ymddiriedolwr o Ymddiriedolaeth Safonau y Cyfryngau a Gŵyl Shakespeare i Ysgolion.

Yn 2009 roedd yn un o'r grŵp a ffurfiodd Glas Cymru Cyf, gyda'r bwriad o brynu Dŵr Cymru a'i droi yn gwmni nid-er-elw. Roedd yn gyfarwyddwyr anweithredol o Glas Cymru Cyf o 2000 i 2011. Mae hefyd wedi bod yn aelod o Fforwm BT dros Gymru.

Mae ganddo Ddoethuriaeth er Anrhydedd o Prifysgol Morgannwg, ac yn Gymrawd er Anrhydedd gan Coleg yr Iesu, Rhydychen, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain.

Mae Davies wedi dal nifer o swyddi eraill:

Fe'i apwyntiwyd yn Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn rhestrau Anhrhydeddau y Flwyddyn Newydd, 2014 am wasanaethau i ddiwydiant, ddarlledu ac elusennau.[5]

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]
  • Davies, Geraint Talfan (2008). At arm's length : recollections and reflections on the arts, media and a young democracy. Bridgend: Seren Books. ISBN 9781854114365.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Controller of BBC Wales to retire, September 1999
  2. ACW chair "sacked" – British Theatre Guide, January 2006
  3. ACW welcomes new Chairman for Welsh National Opera Archifwyd 2006-09-26 yn y Peiriant Wayback, September 2006
  4. "Geraint Talfan DAVIES". People of Today. Debrett's. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-15. Cyrchwyd 22 July 2015.
  5. London Gazette: (Supplement) no. 60728. p. 11. 31 December 2013.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]