Gioconda Belli | |
---|---|
Ganwyd | 9 Rhagfyr 1948 Managua |
Man preswyl | Santa Monica |
Dinasyddiaeth | Nicaragwa |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr, dyddiadurwr, llenor, ymgyrchydd |
Adnabyddus am | El pergamino de la seducción |
Perthnasau | Matías Moldskred |
Gwobr/au | Gwobr Casa de las Américas, Gwobr Cynhadledd y 27, Gwobr Barddoniaeth Ryngwladol Dinas Melilla, Premio Biblioteca Breve, Gwobr Sor Juana Inés de la Cruz, Gwobr Anna Seghers, Gwobr y llyfr gwleidyddol, Hermann Kesten, chevalier des Arts et des Lettres, Gwobr Reina Sofía |
Gwefan | http://www.giocondabelli.org |
Awdures a bardd o Nicaragwa yw Gioconda Belli (ganwyd 9 Rhagfyr 1948) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nofelydd ac yn ymgyrchydd o fri.
Fe'i ganed yn Managua ar 9 Rhagfyr 1948 i deulu cyfoethog a hanai'n rhannol o dde'r Eidal. Aeth i ysgol breswyl yn Sbaen, lle graddiodd o Ysgol Frenhinol Santa Isabel ym Madrid, ac astudiodd hysbysebu a newyddiaduraeth yn Philadelphia. Pan ddychwelodd i Nicaragwa, priododd a chafodd ei merch gyntaf pan oedd yn 19 oed.[1][2]
Wedi iddi adael y coleg, fe'i cyflogwyd gan Pepsi-Cola, yn rhan o'r adran hysbysebu. Trwy un o'i chydweithwyr yn yr asiantaeth hysbysebu, cyfarfu Belli â Camilo Ortega, a gyflwynodd hi i'r Sandinistas ac ymunodd â'r grŵp. Yn 1970, ymunodd Belli â'r frwydr yn erbyn unbennaeth y teulu Somoza; cafodd ei derbyn yn rhan o'r mudiad gan Leana, gwraig Camilo. Cyhoeddwyd gwaith Belli ar gyfer y Mudiad ym Mecsico ym 1975.[3][4] Oherwydd ei haelodaeth o'r mudiad, a'i gwaith yn erbyn y Somoza, bu'n rhaid iddi ffoi am ei bywyd i Fecsico yn 1975.
Dychwelodd yn 1979 ychydig cyn buddugoliaeth Sandinista, a daeth yn gysylltydd y wasg ryngwladol (FSLN) ym 1982 a'r cyfarwyddwr cyfathrebu gwladol ym 1984. Yn ystod y cyfnod hwnnw cyfarfu â Charles Castaldi, newyddiadurwr NPR Americanaidd, a phriododd y ddau yn 1987. Mae hi wedi bod yn byw yn Managua a Los Angeles ers 1990 ac mae bellach yn feirniadol iawn o'r llywodraeth bresennol.[5][6][7][8]
Yn 1970, cyhoeddodd Belli ei cherddi cyntaf yn atodiad llenyddol un o bapurau newydd Nicaragwa, sef La Prensa. Ym 1972, enillodd wobr Premio de Poesía Mariano Fiallos Gil gan yr Universidad Nacional Autonoma de Nicaragua. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: El pergamino de la seducción.[9][10] [11]
Yn 1988, daeth llyfr Belli, La Mujer Habitada (The Inhabited Woman), â mwy o sylw iddi; cyhoeddwyd y llyfr hwn mewn sawl iaith a bu ar restr-ddarllen pedair prifysgol yn yr Unol Daleithiau. Mae'r nofel yn dilyn dwy stori gyfochrog: y gwrthwynebiad brodorol i'r gwrthryfel Sbaeneg a modern yn Canolbarth America gyda nifer o bwyntiau cyffredin: rhyddid (a'r ymrwymiad i ryddid) menywod ac angerdd. Yn 2000, cyhoeddodd ei hunangofiant, El país bajo mi piel, gan ganolbwyntio ar ei rhan hi ei hun yn y mudiad chwyldroadol; cyfieithwyd y gwaith i'r Saesneg yn Unol Daleithiau America, dan y teitl The Country Under My Skin ac roedd yn y rownd derfynol am Wwobr Llyfrau Los Angeles Times yn 2003.[12] mae dal i gyhoedi, ac mae'n mynnu mai ei barddoniaeth yw ei gwaith gorau. Derbyniodd wobr y Premio Casa de las Américas yn 1978.[13]
Bu'n aelod o Academi Iaith Nicaragwa am rai blynyddoedd.