Grace Coddington

Grace Coddington
Ganwyd20 Ebrill 1941 Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethmodel, steilydd dillas, golygydd ffasiwn, newyddiadurwr, llenor Edit this on Wikidata
TadWilliam R. D. Coddington Edit this on Wikidata
PriodMichael Chow, Willie Christie, Willie Christie, Michael Chow Edit this on Wikidata
PartnerDidier Malige Edit this on Wikidata
Gwobr/auCFDA Lifetime Achievement Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.gracecoddington.com/ Edit this on Wikidata

Cyn-fodel o Gymraes yw Grace Coddington (ganwyd 20 Ebrill 1941), a ddaeth yn gyfarwyddwraig greadigol y cylchgrawn ffasiwn Vogue. Yn y rôl olaf, daeth hi'n adnabyddus am greu sesiynau ffotograffig mawr, cymhleth a dramatig.

Fe'i ganwyd yn Ynys Môn a threuliodd ei phlentyndod ym Mae Trearddur. Ym 1959 enillodd gystadleuaeth fodelu a arweiniodd at yrfa fel model yn Vogue. Tua 10 mlynedd yn ddiweddarach daeth yn olygydd gyda'r cylchgrawn yn Llundain. Ym 1988 ymunodd hi ag Anna Wintour er mwyn gweithio dros Vogue yn Efrog Newydd. Parhaodd i weithio i'r cylchgrawn yno tan 2016. Daethpwyd â'i phwysigrwydd yn y byd ffasiwn i sylw'r cyhoedd gan ffilm ddogfen o 2009, The September Issue, a ddangosodd y broses greadigol y tu ôl rhifyn o Vogue.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Grace Coddington a Michael Roberts, Grace: A Memoir (Efrog Newydd, 2012)