Mae hanes Malawi yn ymdrin â hanes y diriogaeth sydd nawr yn wlad Malawi, yn ne-ddwyrain Affrica.
Cafwyd hyd i olion hominid yn dyddio'n ôl tua miliwn o flynyddoedd yn yr ardal yma, ac roedd pobl gynnar yn byw ar lannau Llyn Malawi 50,000 i 60,000 o flynyddoedd yn ôl. Gelwir y trigolion cynnar yr Akufula neu'r Batwa. Hwy oedd yn gyfrifol am yr arlunwaith craig i'r de o Lilongwe, yn Chencherere a Mphunzi.
Yn ystod y 16g, sefydlwyd gwladwriaeth Maravi gan gangen o'r bobloedd Bantu o gwmpas Llyn Malawi. Dywedir fod yr enw "Malawi" yn dod o "Maravi". Tyfodd tiriogaeth y wladwriaeth i ymestyn o ardaloedd Tumbuka a Tonga yn y gogledd i ran isaf afon Shire yn y de, ac i'r gorllewin cyn belled a dyffrynoedd Luangwa a Zambezi. Roedd rheolwyr Maravi yn perthyn i dylwyth y Phiri, ac yn dwyn y teitl Kalonga. Manthimba oedd eu prifddinas. Prif iaith y Maravi oedd Chichewa.
Yn y 19g, symudodd nifer o bobloedd eraill i'r ardal. Daeth pobl y Ngoni, neu'r Angoni, o ardal Natal, yn yr hyn sy'n awr yn Dde Affrica, yn ffoi oddi wrth Ymerodraeth y Zulu, oedd yn ymestyn ei grym dan Shaka Zulu. Grŵp arall o fewnfudwyr oedd yr Yao neu Ayao, o'r hyn sy'n awr yn ogledd Mosambic. Cyn hir roedd y Maravi yn dioddef oherwydd ymosodiadau eu cymdogion, y Ngoni a'r Yao, ac yn aml yn cael eu gwerthu fel caethweision. Roedd yr Yao wedi troi at Islam, ac wedi datblygu partneriaeth a'r marsiandïwyr Arabaidd oedd yn rheoli'r fasnach mewn caethion.
Roedd y Portiwgeaid wedi ymsefydlu ar yr arfordir ers yr 16g, ond ymddengys mai'r Ewropead cyntaf i gyrraedd Llyn Malawi oedd David Livingstone yn 1859. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, sefydlodd cenhadon Albanaidd yn y wlad. Yn 1891, daeth y diriogaeth yn than o'r Ymerodraeth Brydeinig, ac yn 1907 rhoddwyd yr enw Gwlad Nyasa arni.
Yn ystod y 1950au, bu nifer o ymgyrchoedd i geisio ennill annibyniaeth. Un o'r arweinwyr oedd Dr Hastings Kamuzu Banda, a ddaeth yn Brif Weinidog pan ddaeth Malawi yn wlad annibynnol yn 1964, ac yn Arlywydd ddwy flynedd yn ddiweddarach. Dim ond un blaid a ganiateid, ac yn 1970, cyhoeddwyd Banda yn Arlywydd am Oes.
Yn 1993, pleidleisiodd pobl Malawi mewn refferendwm dros gael system ddemocrataidd, sydd wedi parhau ers hynny. Yr Arlywydd presennol yw Bingu wa Mutharika.