Hariclea Darclée | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mehefin 1860 Brăila |
Bu farw | 12 Ionawr 1939, 10 Ionawr 1939 Bwcarést |
Dinasyddiaeth | Rwmania |
Galwedigaeth | canwr opera |
Arddull | opera |
Math o lais | soprano |
Plant | Yvan de Hartulary Darclée |
Gwefan | http://www.darclee.com/ |
Roedd Hariclea Darclée (10 Mehefin 1860 – 12 Ionawr 1939) yn Prima donna soprano o Rwmania. Cafodd hi yrfa operatig wnaeth para 30 mlynedd.[1].
Ganwyd Darclée gyda'r enw bedydd Hariclea Haricli yn Brăila, Rwmania i deulu o dras Roegaidd. Roedd ei thad, Ion Haricli, yn landlord yng nghwmwd Teleorman o Rwmania. Roedd ei mam, Maria Aslan, yn perthyn i'r teulu pendefig Mavrocordatosy.
Dechreuodd ei addysg gerddorol yng Nghonservatoire cerddorol Iaşi, cyn symud i Baris i barhau ei addysg o dan Jean-Baptiste Faure.[2]
Priododd swyddog ym myddin Ffrainc, Iorgu Hartulari, roedd eu mab Ion Hartulari Darclée (1886–1969), yn awdur operatâu.
Darclée oedd y ffugenw neu nom de théâtre dechreuodd ei ddefnyddio o'i ymddangosiad cyntaf yn y Paris Opéra ym 1888 fel Marguerite yn yr opera Faust gan Charles Gounod.[3]
Dechreuodd Darclée ar ei yrfa broffesiynol fel cantores gyngerdd ym 1884.[4] Roedd ystod ei llais yn cwmpasu repertoire o soprano goloratwra i'r gallu i ganu'n gryf o dan y staff yn ystod isaf y llais soprano mewn rhannau trwm yn operâu Verdi.[3]
Ym 1890, cafodd Darclée llwyddiant mawr yn ei hymddangosiad cyntaf yn La Scala fel Chimène yn opera Jules Massenet Le Cid. Wedi hynny cafodd ei chyflogi gan bob un o brif dai opera'r Eidal. Ymysg uchafbwyntiau ei pherfformiadau yn yr Eidal o 1890 oedd canu ym mherfformiadau cyntaf erioed o ran Condor yn Odalea gan Antônio Carlos Gomes yn La Scala, Milan ym 1891, rhan y teitl yn La Wally gan Alfredo Catalani yn yr un tŷ ym 1892, Luisa yn opera Mascagni I Rantzau yn y Teatro della Pergola ym 1892, a rhannau'r teitl yn Iris gan Pietro Mascagni a Tosca gan Giacomo Puccini [5]
Rhwng 1893 a 1910, ymddangosodd yn aml ym Moscow, St Petersburg, Lisbon, Barcelona, Madrid a Buenos Aires. Roedd hi'n boblogaidd iawn yn Sbaen a De America, lle bu'n cymryd rhan mewn nifer o premières lleol o operâu newydd gan Puccini, Mascagni a Massenet.
Ymhlith y nifer o rannau y mae hi wedi'u portreadu, mae Gilda yn Rigoletto, Ophélie yn Hamlet, Valentine yn Les Huguenots, Violetta yn La traviata, Desdemona yn Otello, Mimì yn La bohème, Santuzza yn Cavalleria Rusticana, a'r rolau teitl yn Manon, Manon Lescaut, Aida , a Carmen. Bu perfformiad olaf ei gyrfa fel Juliette yn Roméo et Juliette yn y Teatro Lirico ym Milan ym 1918.
Bu farw mewn tlodi yn Bucharest Rwmania a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Bellu yn yr un ddinas. Gan nad oedd gan awdurdodau Rwmania diddordeb yn ei choffa, talwyd am ei chladdedigaeth gan llysgenhadaeth yr Eidal i'r wlad.[6]
Ers 1995, cynhelir Gŵyl a Chystadleuaeth Llais Rhyngwladol Hariclea Darclée pob yn ail flwyddyn Brăila, Rwmania [7]. Mae Antonia Emanuela Maria Palazzo (soprano) & Paolo Scibilia (piano) yn creu cyngherddau blas ar opera o dan yr enw Duo Darcalee er clod i'w henw.[8]