James Eric Drummond, Iarll Perth | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 17 Awst 1876 ![]() Fulford ![]() |
Bu farw | 15 Rhagfyr 1951 ![]() Gorllewin Sussex ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, pendefig ![]() |
Swydd | llysgennad y Deyrnas Unedig i'r Eidal, Secretary-General of the League of Nations, Principal Private Secretary to the Secretary of State for Foreign and Commonwealth Affairs, aelod o Dŷ'r Arglwyddi ![]() |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol ![]() |
Tad | James Drummond, 8th Viscount Strathallan ![]() |
Mam | Margaret Smythe ![]() |
Priod | Angela Constable-Maxwell ![]() |
Plant | John Drummond, 8th Earl of Perth, Lady Margaret Drummond, Lady Angela Drummond, Lady Gillian Drummond ![]() |
Gwobr/au | Cydymaith Urdd y Baddon, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Cross of Liberty 3rd Division, 1st Class ![]() |
Roedd James Eric Drummond, Iarll Perth (17 Awst, 1876 – 15 Rhagfyr, 1951) yn wladweinydd Prydeinig a wasanaethodd fel Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf Cynghrair y Cenhedloedd[1]
Ganwyd Drummond yn Fulford Swydd Efrog yn fab i James David Drummond, 10 fed Ardalydd Strathallan, a Margaret (née Smythe) ei ail wraig.
Cafodd ei addysgu yng ngholeg Eton.
Priododd Angela Mary Constable-Maxwell (1877-1965) ar 20 Ebrill 1904[2]. Roedd hi'n ferch i Marmaduke Francis Constable-Maxwell, 11 Arglwydd Herries o Terregles a'r Anrhydeddus Angela Mary Charlotte Fitzalan-Howard (merch y Barwn 1 Howard o Glossop). Bu iddynt bedwar o blant, un mab a thair merch.
Dechreuodd ei yrfa gyhoeddus yn y Swyddfa Dramor ym 1900.[3] Ym 1906 daeth yn ysgrifennydd preifat i'r Arglwydd Edmond Fitzmaurice, yr is-ysgrifennydd seneddol am faterion tramor gan gadw'r swydd hyd 1910 heblaw am gyfnod byr ym 1908. Ym 1908 bu'n ysgrifennydd crynodebau i Syr Edward Gray, yr ysgrifennydd tramor gan ddychwelyd at y swydd rhwng 1910 a 1911. O 1912 i 1915 bu'n ysgrifennydd preifat i Herbert Henry Asquith[4], y prif weinidog, ac yna i olyniaeth o ysgrifenyddion tramor o 1915 i 1919, sef Gray, Arthur Balfour[5], a George Curzon[6]
Sefydlwyd Cynghrair y Cenhedloedd ym 1920 yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bwriad y gynghrair oedd creu fforwm i wledydd ceisio setlo eu gwahaniaethau trwy gyd drafod diplomyddol yn hytrach na thrwy ryfel.[7] Cynigiodd Balfour enw Drummond ar gyfer swydd ysgrifennydd cyffredinol y Gynghrair newydd. Cefnogwyd ei enwebiad gan Georges Clemenceau o Ffrainc a Woodrow Wilson o'r Unol Daleithiau. Mewn cyfarfod o Gynhadledd Heddwch Paris ar 28 Ebrill 1919 etholwyd Drummond yn bennaeth parhaol y Gynghrair.[8]
Yn ystod ei ddeiliadaeth 14 mlynedd o hyd, sefydlodd ysgrifenyddiaeth ryngwladol y Gynghrair i ddarparu corff o farn arbenigol ar faterion technegol ac i gynorthwyo'r cynghreiriaid i ddod i'r afael â setlo materion dadleuol. Roedd Drummond yn arbennig o weithredol yn y cwestiwn o ddiarfogi parhaol ac yn y trafodaethau ar gyfer derbyn yr Almaen i Gynghrair y Cenhedloedd.
Fel gwas sifil yn hytrach na gwleidydd roedd Drummond yn un nad oedd am fod yn ffigwr cyhoeddus amlwg. Roedd yn cael ei ystyried fel un oedd yn cuddio rhag amlygrwydd cyhoeddus a gwleidyddol, er gwaethaf natur amlwg ei swydd.[9] Llwyddodd i gyflawni hyn, ond credid ei fod yn wleidyddol iawn y tu ôl i'r llenni. Fodd bynnag, er gwaethaf ei barodrwydd i aros tu ôl i'r llenni, fe'i gorfodwyd yn aml i wneud hynny fel ffordd o ddyhuddo gwahanol wledydd oherwydd nad oedd ganddo gefnogaeth gan lywodraethau'r gwledydd oedd yn aelodau o'r Gynghrair. Enghraifft o hyn yw sut bu'n rhaid iddo ymdopi â pholisïau Benito Mussolini yn ystod y 1920au tuag at wledydd y Balcanau, Affrica ac Ewrop. Ni allai Drummond gondemnio'n gyhoeddus unrhyw un o bolisïau Mussolini yn gyhoeddus gan nad oedd ganddo gefnogaeth y DU a Ffrainc oedd am gynnal cysylltiadau da gyda'r Eidal. Roedd hyn yn un rheswm, ymhlith llawer, a oedd yn gwneud i rai credu ei fod yn arweinydd gwantan ac analluog.[10]
Gyda dyfodiad yr Ail Ryfel Byd methiant bu Cyngrhair y Cenhedloedd. Er hynny, pan sefydlwyd Y Cenhedloedd Unedig wedi'r Ail Ryfel Byd fe fabwysiadwyd nifer o bolisïau Drummond o geisio creu gwasanaeth sifil rhyngwladol niwtral.
Gadawodd Drummond Cynghrair y Cenhedloedd ym 1933 a phenodwyd ef yn llysgennad Prydeinig i Eidal Mussolini. Yn Rhufain,[11] ceisiodd gynrychioli polisi Prydeinig ac adrodd am fwriad llywodraeth yr Eidal mewn ffordd lawn a theg. Nid oedd yn gweld holl beryglon ffasgiaeth, ond roedd yn amheus o gymhellion yr Eidal. Nid oedd Drummond yn ddeall y cysylltiad agos rhwng gwleidyddiaeth asgell dde'r Almaen, oedd yn wrthun iddo a gwleidyddiaeth asgell dde'r Eidal, roedd yn lled gefnogi.[12]
Yn ystod ei gyfnod fel llysgennad yn Rhufain, bu farw ei hanner frawd o briodas gyntaf ei dad yn di briod. Yn ogystal â bod yn Ardalydd Strathallan, etifeddodd y brawd y teitl Iarll Perth gan gyfyrder a daeth Eric Drummond yn Iarll Perth ar ei ôl. Mae peth cymhlethdod parthed pa rif Iarll Perth ydoedd. Wedi cefnogi ymgyrch y Jacobiniaid dan Charles Edward Stuart, gwaharddwyd 4ydd Iarll Perth o'r bendefigaeth Brydeinig, ond bu ei ddisgynyddion yn parhau i ddefnyddio'r teitl. O ran y defnydd Albanaidd roedd Eric Drummond yn 16 Iarll Perth ac mae rhai ffynonellau yn cyfeirio ato o dan y rhifolyn hwnnw.[6] Ym 1853, cafodd y gwaharddiad ei godi trwy weithred Seneddol a gwnaed George Drummond, yn 5 Iarll Perth, gan roi'r teitl Swyddogol 7 Iarll Perth i Eric.[1]
Ymddeolodd Iarll Perth o'r gwasanaeth diplomyddol ym mis Mai 1939. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cefnogodd ymdrech rhyfel Prydain fel prif gynghorydd ar gyhoeddusrwydd tramor yn y Weinyddiaeth Wybodaeth (1939-1940). Ar ôl y rhyfel bu'n dirprwy arweinydd y Blaid Ryddfrydol yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Bu farw o gancr yn ei gartref, Fyning House, Rogate, Midhurst, Sussex, yn 75 mlwydd oed.[12] Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn Sweetheart Abbey, Dumfries.[13]
Ar farwolaeth ei hanner frawd etifeddodd Drummond y teitlau:[12] Category:
Yn ogystal â'i anrhydeddau etifeddol derbyniodd Drummond yr anrhydeddau canlynol gan y Brenin George V:
Swyddi diplomyddol | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Newydd |
Ysgrifennydd Cyffredinol Cynghrair y Cenhedloedd 1920 – 1933 |
Olynydd: Joseph Louise Anne Avenol |
Rhagflaenydd: Syr Ronald Graham |
Llysgenad Prydain i'r Eidal 1933 – 1939 |
Olynydd: Syr Percy Loraine |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: William Huntley Drummond |
Iarll Perth 1937 – 1951 |
Olynydd: John David Drummond |