John Mulaney | |
---|---|
Ganwyd | 26 Awst 1982 Chicago |
Man preswyl | Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, actor, actor teledu, sgriptiwr, digrifwr stand-yp |
Arddull | comedi arsylwadol, sketch comedy, digrifwch swreal |
Priod | Annamarie Tendler, Olivia Munn |
Partner | Olivia Munn |
Plant | Malcolm Hiệp Mulaney |
Perthnasau | George J. Bates |
Gwobr/au | Primetime Emmy Award for Outstanding Original Music and Lyrics, Primetime Emmy Award for Outstanding Writing for a Variety Special, Gwobrau Peabody, Writers Guild of America Award for Television: Comedy-Variety Talk Series, Writers Guild of America Award for Television: Comedy-Variety Talk Series |
Gwefan | http://www.johnmulaney.com |
Mae John Edmund Mulaney (ganwyd 26 Awst 1982)[1] yn gomedïwr stand-yp Americanaidd, actor, awdur a chynhyrchydd. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei waith fel ysgrifennwr ar Saturday Night Live ac fel comedïwr stand-yp gyda'i sioeau The Top Part, New in Town, The Comeback Kid, a Kid Gorgeous, a enillodd Wobr Emmy Primetime yn 2018.[2][3][4] Ef oedd crëwr a seren y comedi Fox Mulaney, cyfres lled hunangofiannol am ei fywyd. Perfformiodd Mulaney hefyd fel cymeriad o'r enw George St. Geegland mewn deuawd gomedi gyda Nick Kroll, yn fwyaf diweddar yn Oh, Hello on Broadway o fis Medi 2016 i ddechrau 2017. Mae'n adnabyddus hefyd am ei waith actio llais fel Andrew Glouberman yn sioe animeiddiedig wreiddiol Netflix, Big Mouth.[5] Gwnaeth Mulaney ymddangosiad yn ei ffilm gyntaf yn 2018, yn lleisio Peter Porker / Spider-Ham yn y ffilm animeiddiedig Spider-Man: Into the Spider-Verse a enillodd Wobr yr Academi.[6][7]
Ganed Mulaney yn Chicago, Illinois,[8] fab i'r ddarlithydd a Ellen Mulaney a'r cyfreithiwr Charles "Chip" Mulaney. Mae ei rieni o dras Gatholig Wyddelig.[9][10][11][12] Yn saith oed, cafodd Mulaney gyfle i gael clyweliad ar gyfer rôl Kevin yn y ffilm Home Alone, ond gwrthododd ei rieni.[10] Aeth i ysgol uwchradd Gatholig St Clement[13] lle, yn lle gwneud adroddiadau y byddai ef a'i ffrind gorau, John O'Brien, yn cynnig perfformio'r hyn roeddent wedi'i ddysgu ar ffurf sgets. Mynychodd coleg St Ignatius Prep a graddiodd yn 2000. Yna aeth i Brifysgol Georgetown, lle astudiodd lenyddiaeth Saesneg a chrefydd.[8][14] Ymunodd â grŵp byrfyfyrio'r ysgol lle wnaeth chwrdd â Nick Kroll a Mike Birbiglia.[15] Yn ddiweddarach ymunodd â Birbiglia ar ei daith stand-yp.
Ar 5 Gorffennaf 2014, priododd Mulaney artist colur Annamarie Tendler.[16] Perfformiwyd eu seremoni briodas gan y ffrind Dan Levy.[17] Roedd gan Mulaney broblem yfed yn y gorffennol ac nid yw'n yfed alcohol rhagor.[10] Mae Mulaney wedi siarad yn helaeth am ei gariad at bêl-fasged yn ei gomedi, ac mae'n mynychu gemau NBA yn aml.[18][19] Mae Mulaney yn gefnogwr o'r Chicago Bulls.[20] Yn ystod cyfweliad â chylchgrawn Esquire ar 12 Medi 2019, nododd Mulaney iddo gyfrannu arian at ymgyrch arlywyddol Bernie Sanders 2016.[21] Ar 2 Mehefin, 2020, gwelwyd Mulaney gyda'i wraig mewn protest Black Lives Matter yn Washington DC.[22]
Ar ôl graddio o Brifysgol Georgetown yn 2004, symudodd Mulaney i Ddinas Efrog Newydd er mwyn ceisio gyrfa mewn comedi, a chafodd ei gyflogi yn swyddfa yn Comedy Central.[10] Ar ôl blwyddyn, cyflwynodd y syniad am barodi o'r gyfres I Love the '80s gyda'r enw I Love the' 30s, a ddatblygodd ynghyd â Nick Kroll.[23] Gadawodd y swydd er mwyn dechrau gweithio'n annibynnol.
Ar ôl cael ei ddarganfod wrth berfformio ar Late Night with Conan O'Brien, gofynnwyd i Mulaney gael clyweliad ar gyfer Saturday Night Live ym mis Awst 2008, gyda Kroll, Donald Glover, Ellie Kemper, TJ Miller a Bobby Moynihan.[24] Ni wnaeth Mulaney baratoi unrhyw dynwaredai, yn lle yn perfformio stand-yp. Aeth i mewn heb fawr o ddisgwyliadau, er ei fod yn credu y byddai'n stori "cŵl". Enillodd Mulaney le ar y tîm ysgrifennu, lle gweithiodd am bedwar tymor.[25] Roedd hefyd yn ymddangos ar y sioe weithiau ar segment Weekend Update.[26][27][28] Cyd-greodd ef a Bill Hader y cymeriad SNL poblogaidd Stefon.[29][30] Cafodd ei enwebu am, ac enillodd, nifer o wobrau Emmy gyda SNL.[31][32] Dychwelodd Mulaney i gyflwyno Saturday Night Live tair gwaith: ar 14 Ebrill 2018; 2 Mawrth 2019; a 29 Chwefror 2020.[33] Ef yw'r bedwerydd ysgrifennwr SNL (ar ôl Conan O'Brien, Louis CK, a Larry David) i gyflwyno SNL er na fu erioed yn aelod o'r cast.[34]
Yn dilyn ei gyfnod yn Saturday Night Live, cyfrannodd Mulaney ysgrifennu at brosiectau teledu eraill, gan gynnwys Maya & Marty; Documentary Now; Oh, Hello on Broadway; a'r Comedy Central Roast of James Franco. Cafodd mân rolau ar sioeau teledu fel Crashing, Portlandia, a Difficult People. Mae'n lleisio'r prif gymeriad ar y gyfres animeiddiedig Netflix Big Mouth ochr yn ochr â’i bartner ysgrifennu Nick Kroll, a gyd-greodd y sioe. Yn 2018, darparodd Mulaney lais Spider-Ham yn y ffilm animeiddiedig Spider-Man: Into the Spider-Verse, a enillodd Wobr yr Academi.[35]
Yn ychwanegol at ei waith ar SNL, mae Mulaney wedi gweithio am 17 mlynedd fel comedïwr stand-yp. Mae wedi perfformio ar y rhaglenni Live at Gotham, Conan, Jimmy Kimmel Live, Late Night With Jimmy Fallon, Late Night With Conan O'Brien, a Comedy Central Presents. Rhyddhaodd Mulaney albwm comedi stand-yp o'r enw The Top Part yn 2009[36] a chafodd rhaglen arbennig comedi stand-yp o'r enw New in Town yn 2012.
Rhyddhawyd trydedd raglen gomedi stand-yp Mulaney, The Comeback Kid, ar 13 Tachwedd 2015, ar Netflix. Mae ei ail sioe stand-yp, New in Town, a berfformiodd am y tro cyntaf ar Comedy Central yn 2012, hefyd ar Netflix.
Dechreuodd pedwaredd daith gomedi stand-yp Mulaney, Kid Gorgeous, ym mis Mai 2017.[37] Roedd y daith yn cynnwys saith sioe yn Radio City Music Hall yn Efrog Newydd ym mis Chwefror 2018,[38] a ffilmiwyd un ohonynt ar gyfer rhaglen arbennig Netflix arall.[39]
Ym mis Ionawr 2019, cyhoeddwyd y byddai Mulaney yn mynd ar daith gyda Pete Davidson yn Efrog Newydd, New Jersey, Pennsylvania a Massachusetts ar gyfer cyfres gyfyngedig o sioeau comedi o'r enw "Sundays with Pete & John." Mae Mulaney a Davidson yn ffrindiau agos, yn ymddangos gyda'i gilydd ar The Tonight Show gyda Jimmy Fallon a Saturday Night Live.[40]
Ym mis Hydref 2013, cyhoeddodd Fox eu bod wedi archebu chwe phennod o sioe lled-bywgraffiadol John Mulaney o'r enw Mulaney.[41] Mulaney oedd crëwr, cynhyrchydd, ac ysgrifennwr ei gyfres nes iddi gael ei chanslo ym mis Mai 2015.[42] Dywedodd Mulaney ei fod eisiau gwneud y math o gomedi sefyllfa aml-gamera cynulleidfa fyw cafodd ei fagu arnynt.[43] Derbyniodd y gyfres adolygiadau gwael.[44][45][46][47]
Mae Mulaney yn perfformio’n aml fel y cymeriad George St. Geegland, dyn oedrannus o Upper West Side Efrog Newydd. Mae St Geegland a'i ffrind Gil Faizon (a bortreadir gan Nick Kroll), yn cynnal sioe pranc o'r enw Too Much Tuna lle mae cystadleuwyr yn derbyn brechdanau gyda gormod o bysgod tiwna.[48] Mae Mulaney wedi teithio o amgylch yr Unol Daleithiau ochr yn ochr â Kroll mewn sioe o’r enw Oh, Hello, sy'n cynnwys y ddau gymeriad hyn. Perfformiwyd y sioe am y tro cyntaf ar Broadway ar 23 Medi 2016, a daeth i ben ar 22 Ionawr 2017. Ffilmiwyd a rhyddhawyd cynhyrchiad Broadway ar Netflix ar 13 Mehefin 2017.[49] Roedd gwestai yn cynnwys Steve Martin, Michael J. Fox, a Matthew Broderick.
Ym mis Rhagfyr 2019, rhyddhaodd Mulaney raglen gomedi cerddorol arbennig i blant o'r enw John Mulaney & the Sack Lunch Bunch ar Netflix. Roedd y sioe wedi'i ysbrydoli gan Sesame Street, Mister Rogers' Neighbourhood, The Electric Company, Free to Be... You and Me, a 3-2-1 Contact.[50] Mae'r sioe yn cynnwys Mulaney, ynghyd â phymtheg o actorion a chantorion plant, rhwng 8 a 13 oed. Ymhlith y cameos enwog mae André De Shields, David Byrne, Richard Kind, Natasha Lyonne, Annaleigh Ashford, a Jake Gyllenhaal.[51]