Kurt Schwitters | |
---|---|
Ffugenw | Kurt Merz Schwitters ![]() |
Ganwyd | Kurt Hermann Eduard Karl Julius Schwitters ![]() 20 Mehefin 1887 ![]() Hannover ![]() |
Bu farw | 8 Ionawr 1948 ![]() Kendal, Ambleside ![]() |
Man preswyl | Döhren-Wülfel ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Almaen, Norwy, y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, dylunydd graffig, llenor, bardd, cynllunydd, ffotograffydd, artist, arlunydd graffig, cerddor, cyfansoddwr, arlunydd ![]() |
Adnabyddus am | Merzbau, An Anna Blume, Ursonate ![]() |
Arddull | celf haniaethol ![]() |
Prif ddylanwad | De Stijl ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen ![]() |
Mudiad | Dada ![]() |
Tad | Eduard Hermann Schwitters ![]() |
Priod | Helma Schwitters ![]() |
Partner | Edith Thomas, called Wantee (Wanty) ![]() |
Plant | Ernst Schwitters ![]() |
llofnod | |
![]() |
Arlunydd arloesol o'r Almaen oedd Kurt Schwitters (ganwyd Herman Edward Karl Julius Schwitters, 20 Mehefin 1887 – 8 Ionawr 1948).
Arbrofodd gyda steil Ciwbaidd a Mynegiadaeth (expressionist) ac yn 1919 creuodd waith collage a defnyddiodd y term “Merz,” ar gyfer ei holl waith creadigol o farddoniaeth, collage a cerflunwaith.
Roedd yn rhan o'r grŵp Dada ym Berlin ar ddechrau 1920au gyda Jean Arp and Raoul Hausmann a Hannah Höch. Roedd yn rhan o'r arddangosfa yn Der Sturm a chyfrannodd i'r cylchgrawn Der Sturm .
Gydag Arp, mynychodd y Kongress der Konstructivisten yn Weimar ym 1922. Yno daeth yn ffrindau gyda'r arlunydd Iseldireg Theo van Doesburg a dylanwadwyd gan ei waith De Stijl.
Rhwng 1923 i 1932 cyhoeddodd cylchgrawn Merz gan arbrfi gyda dulliau Teipograffi a dechreuodd ar ei Merzbau - cerflunwaith a daeth i lenwi ei stiwdio yn Hannover. Cafodd ei waith eu cynnwys yn arddangosfeydd Ciwbaidd, Dada, Haniaethol (abstract) a Swrreal yn Zürich, Paris ac Efrog Newydd.
Hefyd rhwng 1923 a 1932 cyfansoddodd Ursonate - barddoniaeth sain a dylanwadwyd gan Raoul Hausmann. Mae'r cerdd yn defnyddio seiniau yn hytrach na geiriau arferol.[1]
Yn 1937 cafodd Schwitters a llawer iawn o artistiaid a llenorion eu gwahadd gan y Natsïaid. Cafodd eu gwaith ei alw'n Entartete Kunst - 'Celf Ddirywiedig'. Trefnodd y Natsïaid arddangosfeydd o waith 'dirywiedig' gan rhoi cyfle i'r cyhoedd chwerthin ar ei ben. Distrywid llawr o'r darluniau a llosgwyd llyfrau. Fel llawer o arlunwyr, iddewon a gwrthwynebyr y Natsïad yn gyffredinol, roedd rhaid i Schwitters dianc yr Almaen rhag ofn iddo gael ei garcharu neu ladd.
Symudodd I Norwy a wedyn Lloegr. Yn Lloegr cafodd ei garcharu am dros flwyddyn gyda llawr o bobl eraill oedd wedi ffoi o'r Almaen ac Awstria, writh i'r llywodraeth yn poeni am sbïwyr. Bu farw yn Kendel ym 1947 [2]