Lehendakari, weithiau Lendakari (Basgeg, yn golygu "y cyntaf") yw'r term a ddefnyddir am Arlywydd llywodraeth Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg. Weithiau defnyddir Eusko Jaurlaritzako Lehendakari ("Arlywydd y Llywodraeth Fasgaidd"). Defnyddid yr un term am arweinydd y llywodraeth Fasgaidd yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, ac wedyn mewn alltudiaeth.