Enghraifft o'r canlynol | sub-set of literature |
---|---|
Math | llenyddiaeth |
Rhan o | culture of Bengal |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y corff ysgrifenedig yn yr iaith Fengaleg, a siaredir heddiw yn rhanbarth Bengal—Bangladesh a thalaith Gorllewin Bengal yn nwyrain India—yw llenyddiaeth Fengaleg.
Y testunau cynharaf yn yr iaith ydy'r Charyapada, blodeugerdd o farddoniaeth gyfriniol Fwdhaidd o ddwyrain India a gyfansoddwyd rhwng yr 8g a'r 12g. Cafwyd seibiant ym mywyd llenyddol Bengaleg yn sgil gorchfygiad Bengal gan y Mwslimiaid dan arweiniad Bakhtiyar Khalji ym 1202, a ni flodeuai barddoniaeth Fengaleg eto nes annibyniaeth Swltanaeth Bengal ar Swltanaeth Delhi yng nghanol y 14g. Wedi hynny, rhennir hanes llenyddol yr iaith yn ddau gyfnod, yr oesoedd canol (oddeutu 1360–1800) a'r oes fodern (ers 1800).[1] Mae clasuron o gyfnod Bengaleg Canol yn cynnwys trosiad gan Krittibas Ojha o'r arwrgerdd Ramayana, sy'n dyddio o'r 15g, a throsiad Kashiram Das o'r Mahabharata o'r 17g.
Datblygodd ffurf Fengaleg ar farddoniaeth Bhakti, traddodiad defosiynol amlieithog i'r duw Hindŵaidd Vishnu. Prif ladmerydd y traddodiad hwn yn Fengaleg oedd Chandidas a flodeuai yn y 15g. Mae llên ddefosiynol arall yn Fengaleg yn cynnwys pregethau mydryddol y cyfrinydd Chaitanya, a fyddai'n ysbrydoli nifer o feirdd eraill i foli'r duw Krishna yn eu penillion. Cyfansoddwyd hefyd molawdau i dduwiesau Hindŵaidd, er enghraifft gan Mukundaram, Ketakadas, a Bharatachandra Ray.[2]
Datblygodd rhyddiaith Fengaleg yn sgil ymdrechion cenhadon y Bedyddwyr yn Serampore a sefydlu Coleg Fort William yn Calcutta ym 1800. Yno ysgrifennai Ramran Basu y gwaith creadigol rhyddieithiol cyntaf yn Fengaleg, ei fywgraffiad o'r Brenin Pratapaditya (1801). Y nofelydd Bengaleg cyntaf oedd Bankimschandra Chattopadhyay. Michael Madhusudan Duff oedd y bardd cyntaf i ganu'n foel yn Fengaleg ac hefyd awdur yr arwrgerdd wreiddiol gyntaf yn yr iaith, "Marwolaeth Meghnad" (1861). Arloeswyd y ddrama Fengaleg fodern gan Ramnarayan Tarkaratna a Dinabandhu Mitra. Y llenor Bengaleg goruchaf yn yr oes fodern oedd Rabindranath Tagore . Mae nofelwyr Bengaleg yr 20g yn cynnwys Saratchandra Chattopadhyay a Bibhutibhushan Bandyopadhyay.[2]