Louis Althusser | |
---|---|
Ganwyd | Louis Pierre Althusser 16 Hydref 1918 Bir Mourad Raïs |
Bu farw | 22 Hydref 1990 Paris, La Verrière |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, gwleidydd, academydd, golygydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | For Marx, Reading Capital (work level), Ideology and Ideological State Apparatuses (work level), Philosophy and the Spontaneous Philosophy of the Scientists (work level) |
Prif ddylanwad | Karl Marx, Vladimir Lenin, Antonio Gramsci, Claude Lévi-Strauss, Gaston Bachelard, Mao Zedong, Baruch Spinoza, Georges Canguilhem |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol Ffrengig |
Mudiad | Marcsiaeth, structuralism, structural Marxism |
Priod | Hélène Rytmann |
Athronydd o Ffrainc oedd Louis Althusser (16 Hydref 1918 – 22 Hydref 1990) sydd yn nodedig am gyfuno athroniaeth Farcsaidd ag adeileddaeth.
Ganed yn Birmandreis, Algeria Ffrengig (heddiw Bir Mourad Raïs, Algeria). Fe'i galwyd i'r fyddin yn 1939 ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, ac yn sgil cwymp Ffrainc ym Mehefin 1940 fe gafodd ei ddal mewn gwersyll carcharorion rhyfel gan yr Almaenwyr nes diwedd y rhyfel.[1]
Yn 1948 ymunodd Althusser â Phlaid Gomiwnyddol Ffrainc. Yn yr un flwyddyn, fe'i penodwyd i gyfadran yr École Normale Supérieure ym Mharis, a bu'n addysgu yno am ddeng mlynedd ar hugain bron. Yn 1965 cyhoeddodd ei ddau brif waith ar bwnc athroniaeth Karl Marx, Pour Marx a Lire 'le Capital'. Tynnodd ar waith athronwyr y gwyddorau Gaston Bachelard a Georges Canguilhem i amlygu'r wahaniaeth rhwng syniadaeth Hegelaidd gynnar Marx a'i hanesyddiaeth ddiweddarach, a bod y wahaniaeth hon yn nodi "toriad epistemolegol" yn athroniaeth Marx. I'r un perwyl, ysgrifennodd Althusser draethawd, "Idéologie et appareils idéologiques d'État" (1970), yn dadlau'n erbyn dehongliadau traddodiadol o benderfyniaeth economaidd Marx drwy dynnu sylw at y pwysigrwydd a roddai i wleidyddiaeth, y gyfraith, ac ideoleg yn ei weithiau diweddarach. Yn y 1970au bu'n lladd ar Blaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd a Staliniaeth. Bu hefyd yn beirniadu Plaid Gomiwnyddol Ffrainc am roi'r gorau i'r nod o unbennaeth y proletariat.
Yn Nhachwedd 1980, dioddefodd Althusser chwalfa yn ei iechyd meddwl a fe dagodd ei wraig, Hélène Rytmann, yn farw. Fe'i datganwyd yn anghymwys i'w roi ar brawf yn 1981, a chafodd ei gadw mewn ysbyty seiciatrig am dair blynedd. Bu farw o fethiant y galon mewn ysbyty henoed ger Paris yn 72 oed.[2] Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd ei hunangofiant, L'avenir dure longtemps, yn 1992. Ynddo mae'n cyfaddef nad oedd wedi darllen yn helaeth ac nid oedd yn gyfarwydd â gwaith nifer o brif athronwyr y Gorllewin, a'i fod yn euog o ffugio dyfyniadau gan Bachelard yn ei draethawd ymchwil.[3]