Math | rhanbarthau Seland Newydd, district of New Zealand |
---|---|
Prifddinas | Blenheim |
Poblogaeth | 47,340 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+12:00 |
Gefeilldref/i | Tendo |
Daearyddiaeth | |
Sir | Seland Newydd |
Gwlad | Seland Newydd |
Arwynebedd | 12,484.59 km² |
Yn ffinio gyda | Wellington Region, Nelson Region, Tasman District, Canterbury Region, Kaikōura District, Hurunui District |
Cyfesurynnau | 41.8833°S 173.6667°E |
NZ-MBH | |
Mae Marlborough yn dalaith o Seland Newydd yng ngogledd ddwyrain Ynys y De. Tref fwyaf Marlborough yw Waiharakeke (Saesneg: Blenheim) a oedd â phoblogaeth o 24,183 yn 2013.[1] Picton oedd brifddinas y dalaith hyd at 1865, pan gymerodd Waiharakeke drosodd. Cysylltwyd y ddwy dref gan reilffordd ym 1875. Dechreuodd gwasanaeth fferi rhwng Picton a Wellington ym 1962.[2]
Roedd gan Kaikoura boblogaeth o 1,971 yn 2013 ac mae un ymhob pump yn Maori. Agorwyd y rheilffordd rhwng Picton a Christchurch yn Kaikoura ar 15 Rhagfyr 1945. Mae ceunant tanforol Kaikoura yn denu morfilod at yr arfordir, sydd yn denu twristiaid i'r dref. [3]
Mae Marlborough'n enwog am ei win gwyn, yn benodol gwin Sauvignon Blanc.[4]
Ymwelodd James Cook â Meretoto (Saesneg: Ship Cove) ar 15 Ionawr 1770.[5]
Daeganfuwyd aur yn Wakamarina yn Ebrill 1864, ac yn ymyl Waikakaho yn 1888. Datblygwyd Cullensville yn sgil yr ail ddarganfyddiad.[6]
Magwyd Ernest Rutherford yn Havelock cyn iddo symud i Loegr [7]