Mohamed Ghannouchi

Mohamed Ghannouchi
Ganwyd18 Awst 1941 Edit this on Wikidata
Sousse Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFrench protectorate of Tunisia, Tiwnisia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Tunis Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Tiwnisia, Prif Weinidog Tiwnisia, Minister of Finance, Minister of Industry, Minister of Industry Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAnnibynnwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auGrand Cordon of the Order of the Rising Sun Edit this on Wikidata

Mohamed Ghannouchi (Arabeg: محمد الغنوشي‎; ganed 18 Awst 1941 yn Sousse) oedd Prif Weinidog Tiwnisia o 1999 hyd 2011. Am gyfnod byr bu'n Arlywydd dros dro. Yn ogystal mae'n aelod o Senedd Tiwnisia dros yr Rassemblement constitutionnel démocratique (RCP).

O 1992 hyd 1999, bu'n Weinidog Cydweithio Rhyngwladol a Buddsoddiad Tramor, ac o 1999 hyd 2011 bu'n Brif Weinidog Tiwnisia hyd y coup a ddaeth â rheolaeth Zine el-Abidine Ben Ali i ben ar 14 Ionawr 2011 fel canlyniad i'r brotestiadau eang yn erbyn y llywodraeth a ddechreuodd yn Sidi Bouzid ganol mis Rhagfyr 2010. Ar ôl tri diwrnod fel arlywydd dros dro dychwelodd i'w hen swydd o brif weinidog yn y 'llywodraeth undeb cenedlaethol' newydd. Ymddiswyddodd ar 27 Chwefror 2011 yn sgîl protestiadau pellach.

Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.