Poster y ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Fatih Akin Zach Braff |
Cynhyrchydd | Emmanuel Benbihy Marina Grasic |
Ysgrifennwr | Fatih Akin Natalie Portman Anthony Minghella Joshua Marston Andrei Zvyagintsev Jeff Nathanson |
Serennu | Natalie Portman Orlando Bloom Christina Ricci Shia LaBeouf Sonny Sandoval Raphael Saadiq André Benjamin Ugur Yucel Irrfan Khan Julie Christie John Hurt Hayden Christensen Rachel Bilson Chris Cooper Drea de Matteo Ethan Hawke Kevin Bacon Olivia Thirlby |
Cerddoriaeth | Antonio Pinto |
Sinematograffeg | Benoît Debie |
Golygydd | Craig McKay |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Vivendi Entertainment Palm Pictures |
Amser rhedeg | 110 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Mae New York, I Love You (2009) yn ffilm ramantaidd a gafodd ei rhyddhau yn yr Unol Daleithiau ym mis Ebrill 2009. Cynhyrchwyd y ffilm gan gynhyrchwyr Paris, je t'aime, ac mae'n serennu Robin Wright Penn, Shia LaBeouf, Natalie Portman, Blake Lively, Christina Ricci, Hayden Christensen, Orlando Bloom, Rachel Bilson, Kevin Bacon, Ethan Hawke, ac Andy Garcia. Cafwyd noson agoriadol y ffilm yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto ym mis Medi 2008.
Mae New York, I Love You yn gasgliad o unarddeg stori fer, gyda phob rhan tua 10 munud o hyd. Mae gan rhai o'r cyfarwyddwyr statws rhyngwladol, gyda phob un ohonynt yn ffilmio yn un o bum bwrdeistref Dinas Efrog Newydd. Yn yr un modd ag a welir yn y ffilm "Paris, je t'aime", nid yw'r straeon byrion yn cysylltu â'i gilydd ond mae ganddynt un thema canolog sef dod o hyd i gariad.