Math | cantilever bridge, pont ddur |
---|---|
Enwyd ar ôl | Rabindranath Tagore, Howrah |
Agoriad swyddogol | 3 Chwefror 1943 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ward No. 22, Kolkata Municipal Corporation, Howrah |
Gwlad | India |
Cyfesurynnau | 22.5853°N 88.3469°E |
Hyd | 655.7 metr |
Statws treftadaeth | KMC Heritage Building Grade I |
Manylion | |
Deunydd | dur |
Mae Pont Howrah yn bont enfawr sy'n rhychwantu Afon Hooghly yn Calcutta, Gorllewin Bengal, yn India.
Pont gantilifer 450 medr ydyw sy'n croesi'r afon fawr mewn un rhychwant hir. O ran ei maint mae'n debyg i bont harbwr Sydney. Fe’i hadeiladwyd yn 1943 i gymryd lle’r hen bontŵn a oedd yn medru agor i adael llongau trwodd. Dywedir bod 60,000 o gerbydau yn ei chroesi bob dydd ac mae’n gallu bod yn lle prysur iawn yn ystod yr oriau brys; yn wir, yn ôl rhai awdurdodau hon yw’r bont brysuraf yn y byd. Yn ogystal â'r ceir a bysus mae degau o filoedd o bobl yn ei chroesi ar droed bob dydd.
Ar lan orllewinol yr afon mae'r bont yn arllwys ei thraffig i'r sgwâr prysur o flaen gorsaf Howrah. Gerllaw mae'r hen longau fferi yn dal i croesi'n ôl ac ymlaen o Howrah Ghat.