![]() | |
Math | prifysgol yn Ffrainc ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Michel de Montaigne ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 44.79529°N 0.616361°W ![]() |
![]() | |
Prifysgol Ffrengig ydy Prifysgol Bordeaux Montaigne (Ffrangeg: Université Michel de Montaigne Bordeaux III) a leolir ar gyrion Bordeaux, Aquitaine, yn ne-orllewin Ffrainc. Mae'r brifysgol yn un o bum prifysgol sy'n ffurfio cymuned o brifysgolion ardal Aquitaine. Y prif feysydd astudio ydy ieithoedd, hanes, daearyddiaeth a’r celfyddydau. Mae 15,600 fyfyrwyr wedi'u cofrestru yno. Fe'i henwir ar ôl y llenor Michel de Montaigne (1533-92).
Crëwyd Prifysgol Bordeaux III ym 1971 ar ôl penderfyniad i wahanu'r brifysgol i mewn i dair rhan. Roedd gwreiddiau'r brifysgol wreiddiol yn hanu'n ôl i'r flwyddyn 1441.
Tan 2010, ffurfiwyd y brifysgol yn ôl nifer o UFR (Ffrangeg: Unité de formation et de recherche) (Cymraeg: Uned Addysgu ac Ymchwilio). Dyma oedd y gwahanol UFR: y celfyddydau, astudiaethau Almaenaidd a Llychlynnaidd, astudiaethau Iteraidd ac Ibero-Americanaidd, daearyddiaeth, hanes, hanes celf ac archeoleg, sefydliad gwyddorau cyfathrebiad, ieithoedd tramor ac ieithoedd tramor gymwysedig, gwledydd Saesneg eu hiaith, ac athroniaeth.
Ers Hydref 2010, serch hynny, cwtogwyd y nifer o UFR i dri, sef "Y Dyniaethau," "Ieithoedd a Gwareiddiad," a "Gwyddorau'r tiroedd a chyfathrebiad."[3]
Lleolir y brifysgol a'i holl adnoddau addysgol ym mharth Pessac Talence Gradignan. Mae gwasanaeth dram yn rhedeg i'r brifysgol bob dydd. Llinell B sydd yn mynd i'r brifysgol, a'r orsaf agosaf at y brifysgol yw gorsaf Montaigne Montesquieu.
Mae cangen o'r brifysgol yn nhref Agen yn ogystal.
Arweinydd a Llywydd y brifysgol yw'r bonwr Patrice Brun, athro Hanes Groeg yr Henfyd.
Dirprwyon:
Cynigir 34 gwahanol radd yn y brifysgol (gyda'r cyfle i arbenigo mewn un neu ddau o 17 gwahanol iaith), 59 meistrolaeth, 26 doethuriaeth, a dysgir 23 o ieithoedd.
Gellir astudio gradd yn un o'r meysydd a ganlyn yn Bordeaux 3: