Regina Ullmann | |
---|---|
Ganwyd | 14 Rhagfyr 1884, 1884 St. Gallen |
Bu farw | 6 Ionawr 1961, 1961 Ebersberg |
Dinasyddiaeth | Y Swistir |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
llofnod | |
Awdures a bardd o'r Swistir oedd Regina Ullmann (14 Rhagfyr 1884 - 6 Ionawr 1961).
Fe'i ganed yn St. Gallen, Swistir a bu farw yn Ebersberg, Bafaria, yr Almaen. [1][2][3][4][5]
Masnachwr brodwaith oedd ei thad Richard Ullmann a oedd yn Awstriad-Iddewig a Hedwig oedd ei mam. Regina oedd eu hail ferch. Cafodd ei geni yn nhref St. Gallen yn y Swistir, ond ym 1902, yn dilyn marwolaeth ei thad pum mlynedd ynghynt, symudodd hi a'i mam i Munich, lle bu'n darllen gwaith beirdd dylanwadol: Ina Seidel, Hans Carossa, Ludwig Derleth a Rainer Maria Rilke. Dechreuodd ohebu â Rilke, a ddaeth yn brif gefnogwr a mentor iddi; cyfarfu'r ddau am y tro cyntaf yn 1912.[6]
Yn Ionawr 1906, rhoddodd Ullmann enedigaeth i ferch anghyfreithlon, Gerta, yn Fienna. Y tad oedd yr economegydd Hanns Dorn. Dilynodd ail blentyn, Camilla, ym 1908 yn dilyn perthynas â seicdreiddiwr Otto Gross. Gadawodd Ullmann y ddau blentyn i dyfu i fyny gyda rhieni maeth, er iddi ymweld â nhw'n rheolaidd a goruchwylio eu haddysg.[7]
Trodd Ullmann yn Gatholig yn 1911, ac ar ôl hynny nodweddir ei gwaith gan y dirgelwch crefyddol sy'n rhan annatod o fywyd bob dydd.
Yn ddibriod a heb waith, roedd Ullmann yn dioddef o iselder ysbryd, difrifol, a waethygwyd gan hunanladdiad ei mam, trwy hongian. Fodd bynnag, gyda'i chasgliad cyntaf o straeon byrion - Die Landstraße - daeth yn fwy adnabyddus. Gyda chymorth Rilke, cafodd gymorth ariannol i ysgrifennu, yn gyntaf gan ei chyhoeddwr ac yn ddiweddarach gan noddwyr yn y Swistir ac asiantaethau cymorth Catholig.
Cafodd ei diarddel, gan y Natsïaid, o Gymdeithas Awduron yr Almaen ym 1935 oherwydd ei hachau Iddewig, a'r flwyddyn ganlynol gadawodd yr Almaen, gan symud i Awstria lle bu farw ei mam yn 1938. Yn dilyn yr Anschluss, dychwelodd i fro ei mebyd, St. Gallen, yn y Swistir, lle bu'n aros ac yn gweithio am ryw ugain mlynedd, tan ychydig cyn ei marwolaeth. Yn ystod misoedd olaf ei bywyd, dychwelodd i'r Almaen ac arhosodd mewn cartref nyrsio dan ofal ei merch Camilla. Bu farw ar Nos Ystwyll 1961 yn Ebersberg.
Bu'n aelod o Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg, ac Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd.