Math | rheilffordd dreftadaeth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Seland Newydd |
Cyfesurynnau | 41.150864°S 174.994946°E |
Mae Rheilffordd Silver Stream yn rheilffordd dreftadaeth yn Silverstream, yn nyffryn Afon Hutt, nid nepell o Wellington, Ynys y Gogledd, Seland Newydd. Mae gan Nant Hull, sy’n gerllaw, lliw arian, sy wedi rhoi enw i’r ardal leol a’r rheilffordd[1]. Dechreuodd gwaith ail-greu rheilffordd ar y safle ym 1977, ac agorwyd y rheilffordd, 1.5 cilomedr o hyd, ar 15 Chwefror 1986. Roedd y lein wreiddiol yn rhan o’r rheilffordd rhwng Wellington ac Upper Hutt hyd at 1954.[1] Roedd gan Gangen Wellington y Gymdeithas Rheilffordd a Locomotifau Seland Newydd casgliad o locomotifau a cherbydau, a throsglwyddwyd y cyfan i Silverstream ym 1984.[2]
Adeiladwyd gan Gwmni Avonside ym Mryste ym 1877. Dechreuodd waith yn Wanganui ym 1878. Gweithiodd ar drenau o Wellington o 1878 ymlaen, hyd at 1903. Trosglwyddodd i waith adeiladu ar Reilffordd y Grand Trunk ac wedyn ar gangen Raehiti.
Locomotif Dosbarth C, adeiladwyd gan Gwmni Dubs yn Glasgow ym 1875; aeth o i Greymouth gyda enw ‘Pounamu’ yn hytrach na rif. Roedd yn locomotif 0-4-0 yn wreiddiol, newidiwyd i fod yn 0-4-2 ym 1879.
Dosbarth C locomotif, adeiladwyd yng Ngweithdy Hillside, Dunedin ym 1930. Gweithiodd yn Dunedin ac wedyn Christchurch.
Locomotif dosbarth D, adeiladwyd ym 1874 gan Gwmni Neilson yn Glasgow.Defnyddiwyd yn ardal ]Nelson
Adeiladwyd ym 1909 gan Gwmni Barclay yn Yr Alban ar gyfer gwaith fferru Ngauranga’r Cwmni Allforio Cig Wellington, lle defnyddiwyd y locomotif hyd at 1963. Prynwyd y locomotif gan Len Southward. Rhoddwyd yy locomotif i Steam Incorporated ym 1981, ac mae o mewn storfa yn Paekakariki.
Adeiladwyd gan Andrew Barclay a Meibion yn Kilmarnock ym 1921. Y locomotif stêm lleiaf Rheilffordd Seland Newydd erbyn hyn. Prynwyd yn wreiddiol gan yr Adran Waith Gyhoeddus.
Adeiladwyd ym 1914 yng Ngweithdy Hillside, Dunedin, a dechreuodd waith ar 4edd Tachwedd 1914 yn Wellington. Gweithiodd hefyd yn Thames, Seland Newydd a Napier cyn iddo fynd yn ôl in Wellington. Mewn storfa yn Upper Hutt o 1953 ymlaen.
Adeiladwyd gan Ransomes a Rapier tua 1946, efallai ar gyfer rheilffordd yn Affrica sy wedi canslo. Prynwyd gan Rheilffyrdd Seland Newydd ym 1946 a dechreuodd waith ym 1948 yn Frankton.
Adeiladwyd yng Ngweithdy Hutt, dechreuodd Ka935 ei waith yn Hydref 1941, yn defnyddio glo hyd at 1948, ac wedyn olew. Lliflinwyd y locomotif i guddio pwmp a phibellau dŵr hyd at 1950.
Adeiladwyd D137 yn Christchurch gan y Brodyr Scott ym 1887 a dechrueodd waith gyda Rheilffyrdd Llywodraeth Seland Newydd yr un flwyddyn, yn Wellington. Gwerthwyd y locomotif i gwmni cig Gear yn Petone ym 1901.
Adeiladwyd 1335 gan gwmni Andrew Barclay a’i Feibion ym 1913 yn Kilmarnock, ar gyfer cwmni cig Gear yn Petone. Mae’n locomotif 4-4-0T.
Cerbyd diesel, adeiladwyd ym 1938.
Locomotif 0-6-0 Diesel, adeiladwyd ym 1968 ar gyfer Melin Ddur Seland Newydd yn Glenbrook.
Adeiladwyd gan Gwmni English Electric yn Preston ym 1951; dechreuodd waith gyda Rheilffyrdd Seland Newydd ym 1952.
Roedd R.M.5 yn un o 6 cerbyd petrol Wairarapa adeiladwyd ym 1936 i weithio ar lethrau Rimutaka rhwng Upper Hutt a Featherston. Newidiwyd o betrol i ddiesel i leihau’r perygl o dân. Defnyddiwyd y cerbydau’n bennaf rhwng Wellington a Masterton, er aethant i [[Gisborne yn achlysurol.
Adeiladwyd Eb26 ym 1929 yng Ngweithdy Hutt, yn defnyddio cyfansoddion Cwmni Goodman o’r Unol Daleithiau. Roedd yn locomotif batri trydanol yn wreiddiol, ond newidiwyd i fod yn un diesel trydanol ym 1953.
Un o’r dosbarth cynharaf o locomotifau diesel i weithio yn Seland Newydd, adeiladwyd ym 1952. Gweithiodd yn Wellington, wedyn yn Auckland.
Adeiladwyd gan Gwmni English Electric yn Preston ym 1937. Dechreuodd waith gyda Rheilffordd Seland Newydd ym Mai, 1938. Defnyddiwyd ar drenau nwyddau ac i deithwyr yn ardal Wellington. Daeth y locomotif i Silver Stream ym Mai 1984.