Robert Southey | |
---|---|
Ganwyd | 12 Awst 1774 Bryste |
Bu farw | 21 Mawrth 1843 Keswick |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, hanesydd, cofiannydd, gwleidydd, cyfieithydd |
Swydd | Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | Robert Southey |
Mam | Margaret Hill |
Priod | Edith Fricker, Caroline Anne Southey |
Plant | Margaret Edith Southey, Edith May Southey, Herbert Castle Southey, Emma Southey, Bertha Southey, Katherine Southey, Isabel Southey, Charles Cuthbert Southey |
Bardd o Loegr oedd Robert Southey (12 Awst 1774, Bryste – 21 Mawrth 1843, Llundain), yn perthyn i'r ysgol Rhamantiaeth Seisnig a gyfrifir yn un o "Feirdd y Llynnoedd" gyda William Wordsworth, Samuel Taylor Coleridge ac eraill. Yn ogystal â bod yn fardd dylanwadol yn ei gyfnod, roedd yn llythyrwr, yn ysgolhaig llên, hanesydd a bywgraffydd a luniodd fywgraffiadau am John Bunyan, John Wesley, William Cowper, Oliver Cromwell, Horatio Nelson ac eraill. Roedd yn medru Portiwgaleg a Sbaeneg hefyd; cyfieithodd sawl gwaith o'r ieithoedd hynny i'r Saesneg ac ysgrifennodd gyfrolau ar hanes Brasil a hanes Rhyfel Crimea. Fel awdur llenyddiaeth plant fe'i cofir am ei fersiwn o Hanes y Tair Arth (rhan o chwedl Goldilocks).
Roedd yn ffigwr amlwg ym mywyd diwylliannol Llundain ar droad y 18g. Daeth yn gyfaill i Iolo Morganwg a derbyniodd lawer o syniadau rhamantus y llenor a ffugiwr hwnnw am y Derwyddon. Roedd yn adnabod Cymry eraill yn y ddinas hefyd, a chafodd ei ysbrydoli i lunio'r gerdd ramantaidd Madoc am hanes Madog ab Owain Gwynedd.
Y dylanwadau mwyaf ar waith Southey fodd bynnag oedd hansesion y Beibl, cerddi mawr Dante, gwaith Milton, ac athroniaeth gyfriniol Swedenborg. Mae ei edmygwyr yn cynnwys Yeats a Hart Crane.
Fe'i penodwyd yn Fardd Llawryfog ym 1813, yn dilyn marwolaeth Henry James Pye. Fe'i dilynwyd gan William Wordsworth ar ôl ei farwolaeth ei hun.
Rhagflaenydd: Henry James Pye |
Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig 12 Awst 1813 – 21 Mawrth 1843 |
Olynydd: William Wordsworth |