Robin Huw Bowen | |
---|---|
Ganwyd | 1957 Lerpwl |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | telynor |
Cerddor o Gymru sy’n arbenigo mewn canu’r delyn deires yw Robin Huw Bowen. Ganed ef yn Lerpwl i deulu o Ynys Môn .
Dysgodd ganu’r Delyn Geltaidd yn yr ysgol dan ddylanwad Alan Stivell. Dechreuodd gymeryd diddordeb yn y Delyn deires trwy ddylanwad Dafydd a Gwyndaf Roberts o’r grŵp Ar Log, oedd wedi eu dysgu gan Nansi Richards. Ymunodd â grŵp Mabsant yn 1986 ac yn ddiweddarach a Cusan Tân. Ers 1998 mae wedi bod yn aelod o Crasdant. Yn 2004 ffurfiodd ef a phedwar telynor arall Rhes Ganol.
Bu’n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth am flynyddoedd, a thra yno bu’n ymchwilio i hen gerddoriaeth telyn Gymreig. Cyhoeddwyd nifer o’r tonau hyn gan y Llyfrgell neu gan ei wasg ef ei hun, Gwasg Teires. Ymhlith ffynonellau eraill, cafodd wybodaeth gan y delynores Eldra Jarman, gor-wyres John Roberts ('Telynor Cymru'), cynrychiolydd olaf traddodiad y telynorion Sipsi Cymreig.
Dyfarnwyd Gwobr Glyndŵr iddo yn 2000 ac yn 2002 enillodd BAFTA (Cymru) am ei gerddoriaeth wreiddiol i'r ffilm Eldra.
Teitl y gân | Clip sain | Blwyddyn cyhoeddi | Rhif Catalog |
---|---|---|---|
Pibddawns Gwyr Wrecsam Pibddawns Abertawe | 2004 | SAIN SCD 2397 | |
Cogau Meirion | 2007 | Sain SCD2526 | |
Helfar Draenog | 2007 | Sain SCD2526 | |
Hoff Jigiau | 2007 | Sain SCD2526 | |
Jig y Doethion | 2007 | Sain SCD2526 | |
Jigiau Crasdant | 2007 | Sain SCD2526 | |
Miniwets Meirionnydd | 2007 | Sain SCD2526 |