S. E. Hinton | |
---|---|
Ffugenw | S.E. Hinton ![]() |
Ganwyd | 22 Gorffennaf 1948 ![]() Tulsa ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, sgriptiwr, awdur plant, hunangofiannydd, actor ffilm ![]() |
Adnabyddus am | The Outsiders ![]() |
Arddull | llenyddiaeth pobl ifanc ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Margaret Edwards ![]() |
Gwefan | http://www.sehinton.com ![]() |
Awdur Americanaidd yw S. E. Hinton (ganwyd 22 Gorffennaf 1948[1]) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, sgriptiwr ac fel awdur llyfrau i oedolion ifanc a phlant.[2] Lleolir llawer o'i gwaith yn Oklahoma, e.e. The Outsiders, a ysgrifennodd pan oedd yn yr ysgol uwchradd. Ym 1988 derbyniodd Wobr gyntaf Margaret Edwards gan Cymdeithas Llyfrgelloedd America am ei chyfraniad i lenyddiaeth ar gyfer pobl ifanc.[3][4][5]
Fe'i ganed yn Oklahoma lle mynychodd Ysgol Uwchradd Will Rogers a Phrifysgol Tulsa.
Tra yn ei harddegau, daeth Hinton yn enw adnabyddus drwy UDA fel awdur The Outsiders, ei nofel gyntaf a mwyaf poblogaidd, wedi'i gosod yn Oklahoma yn y 1960au. Dechreuodd ysgrifennu'r nofel ym 1965.[6] Ysbrydolwyd y llyfr gan ddau gang cystadleuol yn ei hysgol, sef y "Greasers" a'r "Socs", a'i hawydd i ddangos empathi tuag at y Greasers trwy ysgrifennu o'u safbwynt nhw. Cyhoeddwyd y nofel gan Viking Press ym 1967, yn ystod ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Tulsa.[7][8] Ers hynny, mae'r llyfr wedi gwerthu mwy na 14 miliwn o gopïau ac mae'n dal i werthu mwy na 500,000 y flwyddyn (2019).[9] [10]
Awgrymodd ei chyhoeddwr y dylai ddefnyddio ei blaenlythrennau yn lle ei henwau llawn fel na fyddai'r adolygwyr gwrywaidd yn gwrthod y nofel oherwydd bod yr awdur yn fenywaidd.[11] Ar ôl llwyddiant The Outsiders, dewisodd Hinton barhau i ysgrifennu a chyhoeddi gan ddefnyddio'i blaenlythrennau, oherwydd nad oedd am golli'r hyn a wnaeth yn enwog, ac er mwyn cadw ei bywyd preifat a'i bywyd chyhoeddus ar wahân.
Mewn cyfweliadau, mae Hinton wedi nodi ei bod yn berson preifat a mewnblyg, nad yw bellach yn ymddangos yn gyhoeddus.[12] Dywedodd hefyd ei bod yn mwynhau darllen Jane Austen, Mary Renault, ac F. Scott Fitzgerald, cymryd dosbarthiadau yn y brifysgol leol, a marchogaeth.[13]
Mae hi'n byw yn Tulsa, Oklahoma gyda'i gŵr David Inhofe, peiriannydd meddalwedd, y priododd hi yn ystod haf 1970 ar ôl cwrdd ag ef yn ei dosbarth bywydeg yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn y coleg.[14] Ym mis Awst 1983, daethant yn rhieni i Nicolas David Inhofe, a weithiodd fel recordydd effeithiau sain ar y ffilm Ice Age: The Meltdown.[15][16]
|dead-url=
ignored (help)
|work=
(help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher=
(help)