Seymour Papert | |
---|---|
Ganwyd | 29 Chwefror 1928 Pretoria |
Bu farw | 31 Gorffennaf 2016 Blue Hill |
Man preswyl | Unol Daleithiau America |
Dinasyddiaeth | De Affrica, Unol Daleithiau America |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor |
|
Galwedigaeth | mathemategydd, gwyddonydd cyfrifiadurol, addysgwr, academydd, seicolegydd, ymchwilydd deallusrwydd artiffisial |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Mindstorms, Logo, One Laptop per Child, Perceptrons, Mindstorms |
Plaid Wleidyddol | Socialist Workers Party |
Priod | Suzanne Massie, Sherry Turkle |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Marconi |
Gwefan | http://www.papert.org |
Mathemategydd, gwyddonydd cyfrifiadurol ac addysgwr Americanaidd a anwyd yn Ne Affrica oedd Seymour Aubrey Papert (29 Chwefror 1928 – 31 Gorffennaf 2016). Roedd yn un o arloeswyr deallusrwydd artiffisial, ac yn gyd-ddyfeisiwr, gyda Wally Feurzeig, yr iaith raglennu Logo.
Mynychodd Papert Prifysgol Witwatersrand yn Johannesburg, gan dderbyn B. A. yn 1949 a PhD mewn mathemateg yn 1952. Aeth ymlaen i dderbyn PhD arall, hefyd mewn mathemateg, ym Mhrifysgol Caergrawnt ym 1959, lle cafodd ei oruchwylio gan Frank Smithies.[1] Roedd yn ffigwr blaenllaw yn y cylch sosialaidd chwyldroadol o amgylch Socialist Review pan oedd yn byw yn Llundain yn y 1950au.[2]
Gweithiodd Papert fel ymchwilydd mewn amryw o lefydd, gan gynnwys Coleg Sant Ioan, Caergrawnt, Sefydliad Henri Poincaré ym Mhrifysgol Paris, Prifysgol Genefa a'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol yn Llundain cyn dod yn gydymaith ymchwil yn MIT yn 1963.[1] Roedd yn y swydd hon hyd 1967, pan ddaeth yn athro mathemateg gymhwysol a fe'i gwnaed yn gyd-gyfarwyddwr Labordy Deallusrwydd Artiffisial MIT gan gyfarwyddwr cyntaf y sefydliad, yr Athro Marvin Minsky, tan 1981; bu hefyd yn gwasanaethu fel Athro addysg Cecil ac Ida Green yn MIT o 1974-1981.[1]
Gweithiodd Papert ar theorïau dysgu, ac roedd yn adnabyddus am ganolbwyntio ar effaith technolegau newydd ar ddysgu yn gyffredinol, ac mewn ysgolion fel sefydliadau addysg yn benodol.
Yn MIT, aeth Papert ymlaen i greu'r Grŵp Ymchwil Dysgu ac Epistemoleg yn Grŵp Pensaernïaeth Peiriant a ddaeth yn ddiweddarach yn y MIT Media Lab.[3] Yma, datblygodd theori ynghylch dysgu, a elwid yn lluniadaeth (constructionism), yn adeiladu ar waith Jean Piaget gyda theoriau dysgu lluniadaethol. Gweithiodd Papert gyda Piaget ym Mhrifysgol Genefa o 1958 i 1963[4] ac roedd yn un o protégés Piaget; dywedodd Piaget ei hun unwaith fod "neb yn deall fy syniadau cystal â Papert".[5] Gwnaeth Papert ailystyried sut y dylai ysgolion weithio, yn seiliedig ar y damcaniaethau dysgu hyn.
Defnyddiodd Papert waith Piaget wrth ddatblygu'r iaith raglennu Logo tra yn MIT. Creodd Logo fel arf i wella'r ffordd y mae plant yn meddwl a datrys problemau. Datblygwyd robot bach symudol a elwid yn "Crwban Logo", a dangoswyd i blant sut i'w ddefnyddio i ddatrys problemau syml mewn amgylchedd chwarae. Prif bwrpas grŵp ymchwil Sefydliad Logo yw cryfhau'r gallu i ddysgu gwybodaeth.[6] Mynnodd Papert y gallai iaith syml neu raglen y gallai plant ei ddysgu—fel Logo—hefyd gael swyddogaethau uwch ar gyfer defnyddwyr arbenigol.
Fel rhan o'i waith gyda thechnoleg, roedd Papert wedi bod yn lladmerydd o Knowledge Machine. Roedd yn un o'r prif anogwyr ar gyfer y fenter Un Gliniadur i Bob Plentyn (One Laptop Per Child) i gynhyrchu a dosbarthu 'The Children's Machine' i wledydd datblygol.
Roedd Papert hefyd wedi cydweithio gyda Lego ar eu pecynnau roboteg Lego Mindstorms oedd yn gallu cael eu rhaglennu gyda Logo.
Defnyddiwyd gwaith Papert gan ymchwilwyr eraill ym meysydd addysg a gwyddoniaeth gyfrifiadurol. Dylanwadodd waith Uri Wilensky yn y dyluniad o NetLogo a chydweithiodd gydag ef ar yr astudiaeth o ailstrwythuron gwybodaeth, yn ogystal â gwaith Andrea diSessa a datblygiad "dynaturtles". Yn 1981, cychwynnodd Papert ynghyd â nifer o rai eraill yn grŵp Logo MIT, y cwmni Logo Computer Systems Inc. (LCSI), lle'r oedd yn Gadeirydd y Bwrdd am dros 20 mlynedd. Yn gweithio gyda LCSI, cynlluniodd Papert nifer o raglenni cyfrifiadurol arobryn, gan gynnwys LogoWriter[7] a Lego/Logo (marchnatwyd fel Lego Mindstorms). Fe ddylanwadodd hefyd ar ymchwil Idit Harel Caperton, gan gyd-ysgrifennu erthyglau a'r llyfr Constructionism, a chadeiriodd fwrdd ymgynghorol y cwmni MaMaMedia. Dylanwadodd Alan Kay a'i gysyniad Dynabook, a gweithiodd gyda Kay ar brosiectau amrywiol.
Enillodd Papert gymrodoriaeth Guggenheim yn 1980, cymrodoriaeth Marconi International yn 1981,[8] Gwobr Cyflawniad Oes gan y Software Publishers Association yn 1994, a Gwobr y Smithsonian o Computerworld yn 1997.[9] Cafodd Papert ei alw gan Marvin Minsky yn "yr addysgwr mathemateg gorau sy'n fyw heddiw".[10]
Trydedd wraig Papert oedd Athro MIT Sherry Turkle, a gyda'i gilydd ysgrifenasant y papur dylanwadol "Epistemological Pluralism and the Revaluation of the Concrete".[11]
Roedd Papert yn briod â Suzanne Massie Papert, ysgolhaig Rwsiaidd ac awdur Pavlovsk, Life of a Russian Palace and Land of the Firebird.[12]
Bu farw Papert yn ei gartref yn Blue Hill, Maine, ar 31 Gorffennaf 2016.[6][13]
Yn 78 mlwydd oed, cafodd Papert anaf difrifol i'w ymennydd pan darwyd ef gan feic modur ar 5 Rhagfyr 2006 wrth fynd i gynhadledd astudio yr 17eg International Commission on Mathematical Instruction (ICMI) yn Hanoi, Fietnam.[14] Cafodd lawdriniaeth argyfwng i gael gwared ar glot gwaed yn Ysbyty Ffrengig Hanoi cyn cael ei drosglwyddo ar jet Bombardier Challenger (Ambiwlans Awyr y Swistir) i Boston, Massachusetts i dderbyn llawdriniaeth gymhleth. Cafodd ei symud i ysbyty yn nes at ei gartref ym mis Ionawr 2007, ond yna cafodd septisemia a niweidiodd un falf o'r galon oedd yn rhaid ei drin yn ddiweddarach. Erbyn 2008 roedd wedi dychwelyd adref, yn gallu meddwl a chyfathrebu'n glir ac yn cerdded "bron heb gymorth", ond yn dal i fod gyda "rhai problemau lleferydd cymhleth" ac roedd yn derbyn cefnogaeth helaeth i wella.[15] Roedd ei dîm adsefydlu yn defnyddio rhai o'r egwyddorion o ddysgu trwy brofiad a dysgu ymarferol yr oedd wedi arloesi ei hun.[16]
Llyfrau