Shepard Fairey | |
---|---|
Ffugenw | Fairey, Frank Shepard |
Ganwyd | 15 Chwefror 1970 Charleston |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | graffiti artist, cynllunydd, dylunydd graffig, serigrapher, artist murluniau, arlunydd graffig, darlunydd, artist cyfryngau newydd, ymgyrchydd |
Adnabyddus am | Nelson Mandela Mural, Andre the Giant Has a Posse, Barack Obama "Hope" poster, Mural by Shepard Fairey & Vhils in Lisbon, Peace Guardian |
Arddull | graffiti, social-artistic project |
Mudiad | celf gyfoes |
Gwobr/au | Brit Insurance Design Awards |
Gwefan | https://obeygiant.com |
Arlunydd stryd o'r Unol Daleithiau yw Shepard Fairey (ganed 15 Chwefror 1970). Mae o hefyd yn ddylunydd graffeg, gweithredydd, darlunydd a sylfaenydd OBEY Clothing. Daeth yn adnabyddus am ei ymgyrch sticeri Andre the Giant Has a Posse pan roedd o'n mynychu Rhode Island School of Design.
Cafodd Fairey ei eni a'i fagu yn Charleston, De Carolina. Mae ei dad, Strait Fairey, yn ddoctor ac mae ei fam, Charlotte Fairey, yn werthwr eiddo. Aeth i Wando High school a dechreuodd dangos diddordeb mewn celf yn 1984 pan roedd o'n rhoi ei lluniau ar sglefrfyrddau a chrysau-t. Yn 1988 graddiodd o Idyllwild Arts Academy yng Nghalifornia. Derbynodd Baglor o celfyddyd gai mewn darlunio o Rhode Island School of Design.
Creodd Fairey yr ymgyrch sticeri Andre the Giant Has a Posse yn 1989 pan roedd o'n mynychu Rhode Island School of Design.
Credodd Fairey gyfres o posteri yn cefnogi Barack Obama yn ei ymgeisyddiaeth 2008 i ddod yn Arlywydd y Taleithiau Unedig, yn cynnwys y poster eiconig "HOPE".
Mae Fairey yn hollol agored am pynciau dadleuol gwleidyddol a cymdeithasol a mae'n creu celf i hysbysebu ymwybyddiaeth am y materion yma yn aml.