William Hague

Y Gwir Anrhydeddus William Hague
William Hague


Cyfnod yn y swydd
12 Mai 2010 – 8 Mai 2015
Rhagflaenydd Yr Arglwydd Mandelson
Olynydd George Osborne

Cyfnod yn y swydd
19 Mehefin 1997 – 13 Medi 2001
Rhagflaenydd John Major
Olynydd Iain Duncan Smith

Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Cyfnod yn y swydd
5 Gorffennaf 1995 – 2 Mai 1997
Rhagflaenydd David Hunt
Olynydd Ron Davies

Geni 26 Mawrth 1961
Rotherham, De Swydd Efrog
Etholaeth Richmond
Plaid wleidyddol Ceidwadol
Priod Ffion Jenkins

Gwleidydd Ceidwadol, Seisnig a chyn Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig ydy William Jefferson Hague (ganwyd 26 Mawrth 1961[1]) a gynrychiolodd Etholaeth Richmond, Swydd Efrog rhwng 1989 a 2015. Roedd Hague yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru 1995-1997, ac wedyn yn arweinydd y Blaid Geidwadol 1997-2001. Rhwng 2014-2015 ymgyrchodd i fod yn Brif Weinidog Tŷ'r Cyffredin y Deyrnas Unedig ond ni fu'n llwyddiannus.[2]

Gwleidyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Yn 16 oed daeth i sylw cenedlaethol Prydeinig, yng Nghyhadledd y Ceidwadwyr yn 1977 pan anerchodd y gynhadledd: "Half of you won't be here in 30 or 40 years' time", but that others would have to live with consequences of a Labour government if it stayed in power."[3] Roedd yn rhugl iawn fel siaradwr a gwnaeth gryn argraff ar y pryd. Fe'i etholwyd i gynrychioli Richmond yn is-etholiad 1989. Dringodd ysgol wleidyddol Llywodraeth John Major yn sydyn iawn a daeth yn aelod o'r Cabinet yn 1995 fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Roedd yn Arweinydd y Blaid Geidwadol pan oedd yn 36 oed.

Ar 14 Gorffennaf 2014, daeth ei dymor fel Ysgrifennydd Tramor i ben, a chychwynodd fel Arweinydd Tŷ'r Cyffredin, fel cychwyn y broses o ymddeol o wleidyddiaeth, wedi 26 mlynedd fel Aelod Seneddol.

Y person

[golygu | golygu cod]

Fe'i addysgwyd yn ysgol uwchradd Wath-upon-Dearne cyn mynychu Coleg Magdalen, Rhydychen ac INSEAD lle cafodd radd Dosbarth Cyntaf mewn Athroniaeth, Gwledyddiaeth ac Economeg a gradd Meistr yn INSEAD.

Neuadd Cyfronnydd tua 1885.

Cymraes yw ei wraig Ffion (née Jenkins) a gyfarfu pan oedd e'n Ysgrifennydd Gwladol a hithau'n gweithio yn yr un Adran. Gofynnodd ef iddi ddysgu geiriau'r Anthem Genedlaethol iddo, yn dilyn smonach John Redwood ychydig cyn hynny.[4] Mae Ffion yn ferch i gyn-Drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol Emyr Jenkins. Prynnodd y ddau dŷ gwerth £2.5 miliwn yn Ionawr 2015, sef 'Neuadd Cyfronydd' (neu 'Gyfronnydd') ger y Trallwng, ym Mhowys, ar gyfer eu hymddeoliad.[5]

Canghellor Prifysgol Rhydychen

[golygu | golygu cod]

Cafodd Hague ei ethol yn Ganghellor newydd Prifysgol Rhydychen yn Nachwedd 2024.[6]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Leon Brittan
Aelod Seneddol dros Richmond
19892015
Olynydd:
Rishi Sunak
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
David Hunt
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
5 Gorffennaf 19952 Mai 1997
Olynydd:
Ron Davies
Rhagflaenydd:
David Miliband
Ysgrifennydd Tramor
12 Mai 201014 Gorffennaf 2014
Olynydd:
Philip Hammond
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
John Major
Arweinydd y Blaid Geidwadol
19972001
Olynydd:
Iain Duncan Smith

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. HAGUE, Rt Hon. William (Jefferson). Who's Who. 2014 (arg. online Oxford University Press). A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc. (angen cofrestru a thâl)
  2. "Her Majesty's Government". 10 Stryd Downing. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-15. Cyrchwyd 22 Mai 2010.
  3. "Your favourite Conference Clips". The Daily Politics. BBC. 3 Hydref 2007. Cyrchwyd 28 Medi 2008.
  4. "'Spin doctor' grooms Ffion's election look". BBC News. 2 Mai 2001. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2008.
  5. Gwefan y BBC; adalwyd 9 Awst 2015
  6. Richard Adams (27 Tachwedd 2024). "William Hague elected chancellor of Oxford University". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Tachwedd 2024.