William R. P. George | |
---|---|
Ganwyd | 20 Hydref 1912 Cricieth |
Bu farw | 20 Tachwedd 2006 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfreithiwr, llenor, bardd |
Gwobr/au | CBE |
Bardd a chyfreithiwr o Gymru oedd William Richard Philip George CBE (20 Hydref 1912 – 20 Tachwedd 2006), ac yr oedd yn nai i David Lloyd George a fu'n brifweinidog y Deyrnas Unedig.
Fe'i ganwyd yng Nghricieth ac yr oedd ei dad, William George yn frawd iau i David Lloyd George.
Ar waethaf tueddiadau Rhyddfrydol y teulu, roedd yn gefnogol i Blaid Cymru, a bu'n gynghorydd annibynnol ar Gyngor Sir Gwynedd o 1967 tan 1996.
Roedd yn fardd ac fe'i coronwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1974 am ei bryddest "Tân". Derbyniodd ddoethuriaeth oddi wrth Prifysgol Cymru yn 1988, a bu'n archdderwydd o 1990 hyd 1993.