Winnie Madikizela-Mandela | |
---|---|
Ffugenw | Mam' Winnie |
Ganwyd | Mamao Dineo Maledi 26 Medi 1936 Bizana |
Bu farw | 2 Ebrill 2018 Johannesburg |
Dinasyddiaeth | De Affrica |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o Gynulliad Cenedlaethol De Affrica, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol De Affrica, Aelod Seneddol, Aelod Seneddol |
Plaid Wleidyddol | African National Congress |
Priod | Nelson Mandela |
Plant | Zindzi Mandela, Zenani Mandela-Dlamini |
Gwobr/au | Gwobr y Cenhedloedd Unedig am waith gyda Iawnderau Dynol, Robert F. Kennedy Human Rights Award, Gwobr Candace, Order of Luthuli |
Winnie Madikizela-Mandela | |
8fed Prif Foneddiges De Affrica
| |
Cyfnod yn y swydd 10 Mai 1994 – 19 Mawrth 1996 | |
Arlywydd | Nelson Mandela |
---|---|
Rhagflaenydd | Marike de Klerk |
Olynydd | Graça Machel |
Aelod Seneddol De Affrica
| |
Cyfnod yn y swydd Mai 2009 – Ebrill 2018 | |
Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Diwylliant, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
| |
Cyfnod yn y swydd 1994 – 1996 | |
Rhagflaenydd | Sefydlwyd y swydd |
Olynydd | Pallo Jordan Derek Hanekom |
Geni |
Roedd Winnie Madikizela Mandela (ganed Nomzamo Winifred Zanyiwe Madikizela; 26 Medi 1936 – 2 Ebrill 2018)[1] a adnabyddwyd yn gyffredinol fel Winnie Mandela yn actifydd a gwelidydd gwrth-apartheid De Affricanaidd. Daliodd nifer o rolau mewn llywodraeth, gan gynnwys swydd fel Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Diwylliant, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Fel aelod o blaid y Gyngres Genedlaethol Affricanaidd, gwasanaethodd ar ei Phwyllgor Gweithredol Cenedlaethol yn ogystal â bod yn bennaeth ar ei Chynghrair i Ferched.
Ganwyd i deulu Xhosa yn Bizana yn, fel a elwir ar y pryd, Undeb De Affrica ac aeth yn ei blaen i astudio gwaith cymdeithasol yn Ysgol Jan Hofmeyr. Yn 1958, priododd yr actifydd gwrth-apartheid Nelson Mandela yn Johannesburg; parodd eu priodas am 38 mlynedd a chawsant ddau o blant gyda'i gilydd. Yn 1963, carcharwyd Mandela yn dilyn y Treial Rivonia a daeth Madikizela-Mandela yn wyneb i'w gŵr tra'r oedd dan glo am 27 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth i amlygrwydd o fewn y mudiad gwrth-apartheid yn ei gwlad. Fe'i harestiwyd a fe'i chadwyd gan wasanaethau diogelwch y wladwriaeth nifer o weithiau a threuliodd rhai misoedd mewn carchariad unigol.
Yn y 1980au, pan oedd yn byw yn Soweto, cefnogodd Madikizela-Mandela ymddygiad treisgar; gan gynnwys gyddfgadwynu yn erbyn hysbyswyr i'r heddlu honedig a chydweithredwyr gyda llywodraeth y Blaid Genedlaethol. Cynhaliodd ei gwasanaeth diogelwch, Clwb Pêl-droed Mandela Unedig, nifer o weithredoedd, gan gynnwys herwgipio, arteithio a llofruddiaeth ac yn fwyaf enwog, lladd Stompie Moeketski, bachgen oedd yn ei arddegau.
Rhyddhawyd Nelson Mandela o'r carchar ar 11 Chwefror 1990 a gwahanodd y cwpl yn 1992; yn ysgaru'n ffurfiol ym mis Mawrth 1996. Cadwasant mewn cysylltiad, ac ymwelodd ag ef pan oedd yn sâl y nes ymlaen yn ei fywyd. Fel uwch-ffigwr yn y Gyngres Genedlaethol Affricanaidd, chwareodd rhan yn llywodraeth ôl-apartheid y blaid, ond fe'i diswyddwyd yn dilyn honiadau o lygredd.[2]