Enghraifft o'r canlynol | gwaith dramatig |
---|---|
Awdur | Molière |
Gwlad | Ffrainc |
Iaith | Ffrangeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1673 |
Dechrau/Sefydlu | 1673 |
Genre | comédie-ballet |
Cyfres | Cyfres Y Ddrama yn Ewrop |
Cymeriadau | Thomas Diafoirus, Argan, Béline, Angélique, Louison, Béralde, Cléante, Mr. Diafoirus, Mr. Purgon, Mr. Fleurant, Mr. de Bonnefoi, Toinette |
Prif bwnc | meddygaeth |
Lleoliad y perff. 1af | Salle du Palais-Royal |
Dyddiad y perff. 1af | 1673 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Cyfansoddwr | Marc-Antoine Charpentier |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffars Ffrangeg gan Molière yw Y Claf Diglefyd (Teitl Ffrangeg: Le Malade Imaginaire; yn fras, "Y gŵr sy'n dychmygu ei fod yn glaf"). Y ddrama yma oedd drama olaf Molière; fei'i perfformiwyd gyntaf yn gynnar yn 1673, a chymerwyd yr awdur yn wael yn ystod y pedwerydd perfformiad, ar 17 Chwefror 1673. Bu farw yn fuan wedyn. Cyfieithwyd yn ddrama i'r Gymraeg gan Bruce Griffiths a Gwenllian Tudur, a'i chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru ym 1972 o dan y teitl Y Claf Diglefyd fel rhan o'r Gyfres Y Ddrama yn Ewrop.
Er bod yn ddrama wedi'i hail gyhoeddi yn 2011, cewch lawr lwytho copi yn rhad ac am ddim o'r ddolen ganlynol ar wefan Gwasg Prifysgol Cymru: Y Claf Diglefyd.
Arwr y ddrama yw Argan, cybydd sy'n dychmygu ei fod yn wael. Mae ei feddygon yn manteisio ar hyn i gael arian ganddo. Dymuniad Argan yw i'w ferch, Angelique, briodi meddyg, er mwyn iddo gael triniaeth am ddim, ond mae hi eisoes mewn cariad a Cleante.
Mae brawd Argan, Beralde, a morwyn Argan, Toinette, yn perswadio Argan i gymeryd arno ei fod wedi marw, er mwyn dareganfod pwy sy'n ei garu mewn gwirionedd. Mae Argan yn darganfod mai dim ond ar ôl ei arian y mae ei ail wraig, tra mae Angelique yn ei garu er ei fwyn ei hun. Y canlyniad yw fod Argan yn cytuno i Angelique briodi ei dewis ei hun.
Crëwyd Y Claf Diglefyd am y tro cyntaf yn Gymraeg yn Theatr Fach, Llangefni, 19‑24 Mai, 1969; cyfarwyddwr Hazel Eames; cyfansoddwr Dr. Robert Smith, Coleg y Gogledd; cast:
Aeth Cwmni Theatr Cymru ati i'w llwyfannu yn Chwefror‑Ebrill 1971. Cyfarwyddwr Wilbert Lloyd Roberts; cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Meic Stevens, ag eithrio cân Cléante, a gyfansoddwyd gan Dafydd Iwan; cast:
Mae'r actores Sharon Morgan yn disgrifio'r cynhyrchiad fel "[c]ynhyrchiad mwya uchelgeisiol Wilbert", yn ei hunangofiant Hanes Rhyw Gymraes.[1] "...Perfformiad o'dd yn cynnwys gwisgoedd a setie lliwgar a drud ac ynddo gast niferus. Yn ychwanegol at hyn, penderfynodd gynnwys anterliwt draddodiadol rhwng pob act ac archdeip o drwbadŵr Commedia dell'arte. O'dd Punchinello'n hiraethu am ei gariad yng nghwmni criw o sipsiwn. Bydden ni'r sipsiwn yn canu a dawnsio gan daro'r tambwrins, y rhubanau sidan yn hedfan ac yn golur ffug brown droston ni."[1]
Awgryma Sharon hefyd mai "penderfyniad dewr" oedd cyflogi Meic Stevens, "...nid yn unig i chware rhan Punchinello ond i gyfansoddi'r gerddoriaeth hefyd" ac i gyflogi Dafydd Iwan i bortreadu un o'r prif rannau. "Ro'dd y protestiade iaith yn eu hanterth ac arwyddion yn cal eu peintio ym mhobman, a thrwy gyflogi Dafydd, cadeirydd Cymdeithas yr laith ar y pryd, fe na'th Wilbert yn hollol glir ei fod e'n cefnogi'r ymgyrch yn gyfan gwbwl. Ro'dd Dafydd yn actor digon deheuig, ond ro'dd hin anochel y bydde ei weithgareddau allgyrsiol yn creu ambell i broblem. Arllwyswyd paent dros gar Dafydd a gosodwyd hoelion yn ei deiars, ac yna fe'i harestiwyd." [1]
Bu cynhyrchiad o'r ddrama gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1994 ynghyd â throsiad o'r ffars Le Médecin Malgré Lui gan Annes Gruffydd, o dan y teitl Pwy Sy'n Sâl?. Cyfarwyddwyr Graham Laker a Firenza Guidi; cynllunydd Martin Morley; cast: