Alice Nielsen | |
---|---|
Alice Neilsen | |
Ganwyd | 7 Mehefin 1872, 7 Mehefin 1876 Nashville |
Bu farw | 8 Mawrth 1943 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | UDA |
Galwedigaeth | actor, canwr opera, actor llwyfan |
Math o lais | soprano |
Roedd Alice Nielsen (7 Mehefin, 1872 - 8 Mawrth, 1943) yn berfformiwr Broadway a soprano operatig a oedd â'i chwmni opera ei hun ac a serennodd mewn sawl operetta gan Victor Herbert.[1]
Roedd tad Neilsen, Rasmus, yn drwbadŵr Daneg o Aarhus. Roedd ei mam, Sara Kilroy, yn gerddor Gwyddelig o Donegal. Cyfarfu Rasmus a Sara yn South Bend, Indiana, lle bu Sara yn astudio cerddoriaeth yng ngholeg St. Mary, sydd bellach yn rhan o Brifysgol Notre Dame. Ar ôl i Rasmus gael ei anafu yn Rhyfel Cartref America, symudodd y cwpl i Nashville, Tennessee, lle ganed Alice. Symudodd y teulu Nielsen i Warrensburg, Missouri, pan oedd Alice yn ddwy flwydd oed. Bu farw Rasmus ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Symudodd Sara i Ddinas Kansas gyda'i phedwar plentyn a oedd wedi goroesi.
Bu Nielsen yn crwydro canol Ddinas Kansas gan ganu pan oedd hi'n blentyn. Fe’i clywyd gan y paciwr cig cyfoethog Jakob Dold yn canu tu allan i Glwb Dinas Kansas. Gwahodd Dold hi i ganu ym mharti pen-blwydd ei ferch. Anfonodd Dold hi i gynrychioli Missouri mewn sioe gerdd yn Y Tŷ Gwyn ar gyfer yr Arlywydd Grover Cleveland. Ar ôl dychwelyd, cafodd ei chastio mewn taith ranbarthol gyda chwmni opera Jules Grau am dymor. Pan ddaeth y daith i ben, ymunodd Nielsen â chôr Eglwys Sant Padrig. Priododd organydd yr eglwys a bu iddynt fab. Pan drodd y briodas yn dreisgar gadawodd am San Francisco i berfformio ar y cylch vaudeville gydag Arthur Pryor, gan berfformio gyda Burton Stanley a chwmni Pyke Opera. Yn San Francisco daeth yn unawdydd yn Eglwys Gatholig St Patrick bu hefyd yn canu yn theatr The Wigwam gan serennu yn Satanella gan Michael William Balfe. Wedi ymuno â Chwmni Opera Tivoli, a chael ei hyfforddi gan Ida Valegra, chwaraeodd Nielsen 150 rôl mewn dwy flynedd. Ym 1895, cafodd Nielsen ei gyflogi gan The Bostonians, cwmni opera ysgafn blaenllaw, a aeth â hi i Ddinas Efrog Newydd ac enwogrwydd cenedlaethol ym 1896. Yn Efrog Newydd daeth yn ddisgybl i Frederick Bristol.[2]
Erbyn 1900 Alice Nielsen oedd atyniad fwyaf y swyddfa docynnau yn America. Roedd hi'n teithio 40,000 milltir y flwyddyn trwy Ogledd America rhwng 1896 a 1901, gyda phob un o'i sioeau yn gwerthu allan. Yn Ninas Efrog Newydd, daeth Nielsen yn seren Broadway yn The Serenade gan Victor Herbert. Roedd Herbert wedi ysgrifennu ei chweched opereta ar gyfer Alice Nielsen a'i Chwmni Opera oedd newydd ei ffurfio.[3] Teithiodd Nielsen trwy Ogledd America am dair blynedd cyn cyrraedd Llundain ym 1901 yn The Fortune Teller.[4] Wedi'i wthio gan wrthdaro busnes, gadawodd Nielsen ei Chwmni a gadael i astudio opera fawreddog. Hyfforddwyd hi yn repertoire'r Eidal gan Enrico Bevignani, a oedd wedi hyfforddi'r soprano operatig o Sweden, Christine Nilsson.
Yng Ngwanwyn 1905, dychwelodd Nielsen i'r Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden, Llundain i berfformio mewn nifer o operâu gan Mozart. Ymunodd â Chwmni Opera San Carlo (SCOC), oedd ar y pryd yn gangen deithiol o'r Teatro di San Carlo o Napoli dan arweiniad Henry Russell, yr hydref canlynol ar gyfer eu tymor gwestai preswyl yn Covent Garden gydag Enrico Caruso ac Antonio Scotti. Roedd eu La Bohème yn cael ei ystyried yn gampwaith o berfformiad ensemble.[5] Ar ôl i dymor hydref y SCOC yn Llundain ddod i ben, daeth y cwmni yn endid annibynnol o dan gyfarwyddyd Russell, gan dorri cysylltiadau â'r tŷ opera yn Napoli. Symudodd SCOC ei phencadlys i Boston. Aeth Nielsen gyda’r cwmni yn ôl i America a bu’n ymwneud â theithiau blynyddol y cwmni trwy Ogledd America a'u perfformiadau rheolaidd yn Boston am sawl blwyddyn.
Yn ystod yr haf 1906, ymunodd Nielsen ag Eleonora Duse ac Emma Calvé mewn rhaglen ar y cyd o operâu a dramâu cysylltiedig ag agor Theatr Waldorf Shuberts. Un noson byddai Duse yn actio Camille, y noson olynol byddai Nielsen yn canu Traviata. Yn ystod hydref yr un flwyddyn, aeth Nielsen ar daith o amgylch America gyda SCOC yn cyflwyno cyngherddau opera yn cynnwys fersiwn wedi ei gwtogi o Don Pasquale gan Donizetti. Er na fu ymddangosiad cyntaf yr opera yn Ninas Efrog Newydd yn llwyddiant mawr, daeth yn boblogaidd yn ystod gwanwyn 1907 yn Chicago, San Francisco, Los Angeles, a Dallas.
Yn ystod y gaeaf 1907, dychwelodd Nielsen i America gyda Lillian Nordica, Florencio Constantino a chwmni llawn ar gyfer tymor y SCOC yn Nhŷ Opera Ffrengig New Orleans. Yn ystod eu taith ddilynol trwy Ogledd America, roedd beirniaid yn ystyried bod y grŵp yn rhagori ar Gwmni Teithiol y Met, a oedd wedi ymddangos yn LA, Chicago a Boston ychydig amser cyn taith cwmni Nielsen. Noddwyd eu tymor yn Chicago gan Gymdeithas Cyn Myfyrwyr Coleg Bryn Mawr .
Ar ddiwedd y daith, yn theatr y Park Boston, yn ystod Mawrth 1908, cyflwynodd y SCOC wythnos o berfformiadau o opera mawreddog a oedd yn cynnwys Nielsen a Constantino. Roedd eu dehongliadau o La Bohème a Faust yn Theatr y Park mor llwyddiannus eu bod wedi symud noddwr cerddoriaeth Boston, Eben Jordan, i gynnig adeiladu tŷ opera newydd ar gyfer Henry Russell a'i gwmni. Gwireddwyd y cynllun yn gyflym, a rhoddodd Cwmni Opera Boston, a oedd newydd ei ffurfio, o dan arweinyddiaeth Russell, eu perfformiad cyntaf ar gyfer agoriad Tŷ Opera Boston ar 8 Tachwedd, 1909, gyda pherfformiad o La Gioconda gyda Nordica yn rôl y teitl. Nielsen a Nordica oedd dwy soprano fwyaf blaenllaw'r cwmni yn ystod ei chwe blynedd o weithredu rhwng 1909-1915.
Rhoddodd Nielsen ei pherfformiadau cyntaf yn yr Opera Metropolitan[6] ac yn Opéra de Montréal yn ystod y cyfnod yma. Ymhlith ei chyd artistiaid ar gyfer y prosiect oedd Loie Fuller, Josef Urban ac Anna Pavlova. O fewn chwe blynedd, fodd bynnag, plygodd Opera Boston oherwydd ymyrraeth y Rhyfel Byd Cyntaf.[7][8]
Roedd Nielsen yn artist recordio poblogaidd mewn sesiynau a arweiniwyd gan Arthur Pryor. Recordiodd saith deg o draciau rhwng 1898-1928, cyhoeddwyd y rhan fwyaf ohonynt gan gwmnïau Victor a Columbia. Ei record fwyaf poblogaidd oedd "Home, Sweet, Home", ac yna "Un bel di", "Killarney" a "Last Rose of Summer." "Dim ond y caneuon roeddwn i eisiau eu canu y gwnes i eu canu", meddai yn Colliers Magazine a gyhoeddodd ei chyfres hunangofiannol Born To Sing ym 1932.[9]
Ar ôl dychweliad byr i Broadway i ganu yn sioe gerdd byrhoedlog Belasco, Kitty Darlin, gyda geiriau gan P G Wodehouse, a gafodd y sac dair wythnos cyn agoriad Efrog Newydd, priododd Nielsen y llawfeddyg Le Roy Stoddard a symud i Bedford, Efrog Newydd . Erbyn 1920, roedd baich teithiol Nielsen wedi ysgafnhau. Ymddangosodd ddiwethaf gyda'r Boston Symphony ym 1922. Parhaodd Nielsen i ganu cyngherddau achlysurol hyd ychydig cyn ei marwolaeth.[10] Mewn blynyddoedd diweddarach, roedd hi'n berchen ar dŷ yn Far Rockaway, Queens lle bu farw, claddwyd ei gweddillion ym Mynwent Eglwys Santes Fair, Seren y Môr, Lawrence, Nassau County, Efrog Newydd.[11]