Anatole Le Braz | |
---|---|
Ffugenw | Sarbel |
Ganwyd | Anatole Jean François Marie Lebras 2 Ebrill 1859 Duaod |
Bu farw | 20 Mawrth 1926 Menton |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd llenyddiaeth, cyfieithydd, bardd, arbenigwr mewn llên gwerin, llenor, casglwr straeon, rhyddieithwr, hanesydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Mytholeg De Llydaw |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Officier de la Légion d'honneur, Gwobr Archon-Despérouses |
Awdur ac ysgolhaig Llydewig oedd Anatole Le Braz (hefyd Anatol ar Braz ac Anatole Le Bras) (2 Ebrill 1859 – 20 Mawrth 1926). Ystyr y gair "braz" yw "bras" (megis "brwsh bras") sef "mawr".
Ganed ef yn Saint-Servais (Aodoù-an-Arvor). Bu'n ddisgybl yn lycée Saint-Brieuc. Treuliau ei wyliau ym Mro Dreger, ardal a ddylanwadodd yn fawr ar ei waith.
Bu'n dysgu yn Étampes a Kemper. Tra'r oedd yng Nghemper, bu'n casglu cerddi Llydaweg poblogaidd gyda François-Marie Luzel, casgliad a gyhoeddasant fel Soniou. Yn Awst 1898, daeth yn gadeirydd yr Union régionaliste bretonne. Rhwng 1901 a 1924, bu'n athro ym mhrifysgol Roazhon.