Anne Meara | |
---|---|
Ganwyd | Anne Therese Meara 20 Medi 1929 Brooklyn |
Bu farw | 23 Mai 2015 Upper West Side |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor |
Adnabyddus am | The King of Queens |
Taldra | 168 centimetr |
Priod | Jerry Stiller |
Plant | Amy Stiller, Ben Stiller |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Writers Guild of America Award for Best Original Screenplay, Outer Critics Circle Award |
Actores a digrifwr Americanaidd oedd Anne Meara (20 Medi 1929 – 23 Mai 2015). Bu hi a'i gŵr Jerry Stiller yn ddeuawd comedi amlwg yn UDA'r 1960au yn ymddangos fel Stiller and Meara. Roedd hi'n fam i'r actor a digrifwr Ben Stiller a'r actores Amy Stiller.
Cafodd Meara ei geni yn Brooklyn, Efrog Newydd yn ferch i rieni o dras Wyddelig sef Mary (née Dempsey) ac Edward Joseph Meara, a oedd yn gyfreithiwr. Magwyd Meara yn y ffydd Gatholig Rufeinig cyn cael tröedigaeth i Iddewiaeth Ddiwygiedig (ffydd ei gŵr) chwe blynedd ar ôl priodi Jerry Stiller. Roedd Meara wedi bod yn briod â Stiller ers 1954.[1][2][3]
Roedd Meara wedi ysgrifennu am farwolaeth ei mam a phrofiadau ei phlentyndod mewn ysgol breswyl Catholig[4].
Roedd Meara a Stiller i'll ddau yn aelodau o'r cwmni byrfyfyr The Compass Players (a ddaeth yn ddiweddarach yn The Second City), cyn creu eu deuawd comedi Stiller a Meara a oedd yn selio llawer o'u hact ar dröydd trwstan eu perthynas go iawn. Bu'r ddeuawd yn ymddangos yn rheolaidd ar The Ed Sullivan Show a rhaglenni teledu eraill.
Yn y 1970au, bu Meara a Stiller yn ymddangos mewn nifer o hysbysebion ar gyfer y gwin Blue Nun. Bu Meara'n actio rhan Stiwardes Awyren yn y comedi sefyllfa Rhoda. Chwaraeodd rôl fechan gyferbyn â Laurence Olivier yn Ffilm The Boys from Brazil (1978).
Bu hi'n chware ran Mary Brady yn y rhaglen Sex and the City a Veronica yn The King of Queens.