![]() Williams yn chwarae i Gymru yn 2011 | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Ashley Errol Williams[1] | ||
Dyddiad geni | 23 Awst 1984 | ||
Man geni | Wolverhampton, Lloegr | ||
Taldra | 1.83m[1] | ||
Safle | Amddiffynnwr | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Stoke City ar fenthyg o Everton | ||
Rhif | 5 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
West Bromwich Albion | |||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2001–2003 | Hednesford Town | 60 | (0) |
2003–2008 | Stockport County | 162 | (3) |
2008 | → Dinas Abertawe (benthyg) | 3 | (0) |
2008–2016 | Dinas Abertawe | 325 | (14) |
2016- | Everton | 0 | (0) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2008– | Cymru | 65 | (2) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 11 Awst 2016 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). |
Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Ashley Williams (ganwyd Ashley Errol Williams 23 Awst 1984). Mae'n chwarae i Everton yn Uwchgynghrair Lloegr ac yn gapten ar dîm cenedlaethol Cymru.
Dechreuodd ei yrfa pêl-droed West Bromwich Albion ond ar ôl cael ei ryddhau yn 16-mlwydd-oed, aeth i chwarae'n lled-broffesiynol gyda Hednesford Town. Yn 2003, er nad oedd yn chwarae'n rheolaidd i Hednesford Town, ymunodd â Stockport County. Ym mis Mawrth 2008, aeth ar fenthyg gydag Abertawe ac ar ôl helpu'r Swans i sicrhau dyrchafiad o Adran Un, ymunodd â'r clwb am £400,000.
Ar ôl chwarae 325 o gemau i Abertawe, ymunodd ag Everton ym mis Awst 2016 am £12m.
Mae'n gymwys i chwarae dros Gymru gan fod teulu ei fam yn hannu o'r Gelli[2].
Roedd Williams yn aelod o Academi West Bromwich Albion ond ar ôl cael ei ryddhau yn 16-mlwydd-oed, aeth i chwarae'n lled-broffesiynol gyda Hednesford Town. Yn 2003, er nad oedd yn chwarae'n rheolaidd i Hednesford Town, ymunodd â Stockport County, oedd yn chwarae yn Ail Adran Cynghrair Lloegr ar y pryd.[3]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru tra'n chwarae dros Stockport
Ar ôl denu sylw Dinas Abertawe, symudodd i'r Swans ar fenthyg ym mis Mawrth 2008[3] cyn arwyddo cytundeb parhaol ym mis Mehefin 2008 am ffi oddeutu £400,000[4]
Ym mis Gorffennaf 2013, ar ôl bod yn gapten am y rhan fwyaf o gemau Abertawe am y ddau dymor blaenorol, cafodd Williams ei benodi'n gapten parhaol wedi i Garry Monk, oedd wedi bod yn gapten ar y clwb am saith mlynedd, ymddiswyddo o'r rôl.[5]
Ym mis Awst 2016, symudodd Williams i Everton am ffi oddeutu £12m gan arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r clwb o Lerpwl[6].
Symudodd o i Stoke City ar fenthyg o Everton ar ddechrau tymor 2018-19.
Mae Williams yn gymwys i chwarae i Gymru oherwydd ei daid sy'n hannu o'r Gelli[2][7]. Cafodd ei gyfle gyda Chymru wedi i gyn reolwr tîm dan-21 Cymru, Brian Flynn ymweld â gêm Stockport County er mwyn gwylio golwr Cymru, Wayne Hennessey, oedd yn chwarae i'r clwb ar y pryd[2].
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Lwcsembwrg mewn gêm gyfeillgar ym mis Mawrth 2008[8] ac arweiniodd ei wlad am y tro cyntaf mewn buddugoliaeth gyfeillgar 3-0 dros Yr Alban yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2009[9]
Ym mis Hydref 2012, cafodd Williams ei benodi'n gapten ar Gymru gan Chris Coleman, yn lle Aaron Ramsey[10] ac arweiniodd Cymru ym Mhencampwriaeth Euro 2016.
Cafodd Williams wobr Chwaraewr y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2009.[11]
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)