Math | cyfrifiad |
---|---|
Gwladwriaeth | yr Almaen |
Cafodd Cyfrifiadau yn yr Almaen eu cynnal pob pum mlynedd rhwng 1875 ac 1910. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd dim ond ychydig iawn o gyfrifiadau poblogaeth cyflawn a gymerwyd, y diwethaf ym 1987.[nodyn 1] Bydd yr Almaen, sydd wedi dibynnu ar samplau o'r boblogaeth er mwyn amcangyfrif, yn cymryd rhan yng nghyfrifiad Ewrop-eang ym 2011.[nodyn 2]
Cynhaliwyd cyfrifiad yn Nuremberg ym 1471, i gael ei baratoi rhag ofn byddai gwarchae.[1] Dechreuodd Brandenburg-Prussia gyfrir ei boblogaeth gwledig ym 1683. Cynhaliwyd yr arolwg systematig cyntaf ar gyfandir Ewrop ym 1719 yn Mark Brandenburg Teyrnas Prwsia, er mwyn paratoi'r cyfrifiad cyffredinol cyntaf ym 1725.
Yn y rhan Awstriaidd o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig a oedd o dan reolaeth Habsburg, cyflwynwyd cyfrif poblogaeth ym 1754, ond oherwydd gwrthwynebiad gan y boneddigion a'r clerigwyr, ni chynhaliwyd cyfrifiad llawn ar ôl 1769. Canrif yn ddiweddarach wedi cryn newidiadau gwleidyddol, ailgyflwynwyd y cyfrifiad ym 1869, a cynhaliwyd hefyd ym 1880, 1890, 1900, 1910, ar yr un adeg a chyfrifiad Ymerodraeth yr Almaen. Rhwng y rhyfeloedd, cynhaliwyd cyfrifiadau ym 1920, 1923, 1934 ac 1939 a oedd i'w ailddechrau ym 1951 ac i gael ei gynnal pob deng mlynedd wedi hynny.
Mae poblogaeth o 24,241,000 ar gyfer 1806 mewn sawl Imperial Circle yn cael ei ddyfynnu yn "Statistik des deutschen Reiches",[2] er fod yr hen Ymerodraeth Rufeinig wedi dymchwel ac nid oedd Ymerodraeth newydd yr Almaen yn bodoli eto fel corff gwleidyddol. Erbyn 1821, roedd poblogaeth Cydffederasiwn yr Almaen, a oedd newydd gael ei sefydlu, wedi tyfu i dros 30 miliwn.[3]
Pan sefydlwyd Cydffederasiwn yr Almaen ym 1815, roedd rhai taleithiau wedi bod yn awyddus i profi mai poblogaeth fechan oedd ganddynt yn unig, er mwyn gorfod cyfrannu llai o filwyr tuag at y Fyddin Ffederal. Ar y llaw arall, pan ffurfiwyd yr undeb gwsmeriaeth cyntaf rhwng taleithiau'r de, roeddent eisiau dangos fod ganddynt boblogaeth mawr er mwyn gallu hawlio cyfran mwy o gyllid y gwsmeriaeth.[4]
Cynhaliwyd cyfrifiad gan yr undeb hwn, y Zollverein, rhwng 1834 ac 1867, pob tair mlynedd ar 3 Rhagfyr, er mwyn rhannu'r gyllid rhwng ei thaleithiau yn gyfartal. Dewiswyd y dyddiad hwnnw oherwydd disgwylid i ran fwyaf o bobl y "Zollabrechnungsbevölkerung" (poblogaeth cyfrifyddu cyfraniaeth) fod adref pryd hynny.
Arhosodd rhannau dwyreiniol Prwsia tu allan i'r Conffederasiwn am gyfnod, ond roedd Prwsia gyfan yn rhan o'r Zollverein. Ymunodd y rhan fwyaf o'r taleithiau'r Zollverein yn y diwedd, ond ni ymunodd Ymerodrodraeth Awstria o gwbl, a diddymwyd Conffederasiwn yr Almaen a'r Zollverein yn ystod rhyfel cartref 1866. Ail-ffurfiodd y Zollverein a cynhaliwyd cyfrifiad newydd ym 1867, ond cafodd cyfrifiad 1870 ei ohirio oherwydd y Rhyfel Franco-Almaenig a sefydliad Ymerodraeth yr Almaen.
Dyddiad | Ardal (km²) |
Poblogaeth | Pobl. y km² |
Newidiadau i'r ardaloedd |
---|---|---|---|---|
3 Rhagfyr 1834 | 420.301 | 23.478.120 | 56 | |
3 Rhagfyr 1837 | 439.420 | 26.008.973 | 59 | cynnwys Land Baden and Herzogtum Nassau ers 1835, cynnwys Freie Stadt Frankfurt ers 1836 |
3 Rhagfyr 1840 | 439.420 | 27.142.116 | 62 | |
3 Rhagfyr 1843 | 447.507 | 28.498.136 | 64 | cynnwys Herzogtum Braunschweig ers 1841, cynnwys Lwcsembwrg ers 1842 |
3 Rhagfyr 1846 | 447.507 | 29.461.381 | 66 | |
3 Rhagfyr 1849 | 447.507 | 29.800.063 | 67 | |
3 Rhagfyr 1852 | 447.507 | 30.492.792 | 68 | |
3 Rhagfyr 1855 | 492.621 | 32.721.344 | 66 | cynnwys Königreich Hannover, Großherzogtum Oldenburg a Schaumburg-Lippe ers 1854 |
3 Rhagfyr 1858 | 492.621 | 33.542.352 | 68 | |
3 Rhagfyr 1861 | 492.621 | 34.670.277 | 70 | |
3 Rhagfyr 1864 | 492.621 | 35.886.302 | 73 | |
3 Rhagfyr 1867 | 510.628 | 37.512.005 | 73 | cynnwys Fürstentum Lübeck, Mecklenburg-Schwerin a Mecklenburg-Strelitz ers 1867 |