Eirug Wyn | |
---|---|
Ganwyd | 11 Rhagfyr 1950 ![]() Llanbryn-mair ![]() |
Bu farw | 25 Ebrill 2004 ![]() Bangor ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nofelydd ![]() |
Llenor Cymraeg oedd Eirug Wyn (11 Rhagfyr 1950 – 25 Ebrill 2004).[1]
Cafodd ei eni ym mhentref Llan, ger Llanbryn-mair Sir Drefaldwyn (Powys) yn fab i weinidog, y Parch John Price Wynne. Yn 1958 symudodd y teulu i Ddeiniolen Arfon. Mynychodd Ysgol Gynradd Eglwys Llandinorwig ac wedyn Ysgol Brynrefail. Llanrug. Yn fachgen ysgol fe ddechreuodd yr ymgyrch i roi plat D am ddysgwr gyrru ar gar yn lle y plât L, a oedd yn anghyfreithlon ar y pryd. Fe enillwyd y frwydr.
Yn 1969 astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac yn 1972 sefydlodd Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin, gyda dau bartner arall, Wyn Thomas a William Lloyd.. Wedyn symudodd i'r gogledd a sefydlu Siop y Pentan yng Nghaernarfon yn 1977 ac wedyn ym Mangor [2].
Enillodd y Fedal Ryddiaith ym Eisteddfod Bro Ogwr yn 1998 am Blodyn Tatws ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000 am Tri Mochyn Bach. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Nedd a'r cyffiniau 1994 am Smoc Gron Bach ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 am Bitch.
Ysgrifennodd 15 o lyfrau a chyhoeddodd lyfrau dan y ffugenw Derec Tomos (barddoniaeth) a Myfi Derec (hunangofiant).