Geronimo | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mehefin 1829 Afon Gila |
Bu farw | 17 Chwefror 1909 Fort Sill |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Mecsico |
Galwedigaeth | arweinydd milwrol |
Swydd | cadfridog rhyfel |
Priod | Alope, Ta-ayz-slath, Chee-hash-kish, Nana-tha-thtith, Zi-yeh, She-gha, Shtsha-she, Ih-tedda, Azul |
llofnod | |
Arweinydd milwrol yr Apache Chiricahua oedd Geronimo (Chiricahua: Goyaałé, sillefir weithiau fel Goyathlay neu Goyahkla) (16 Mehefin 1829 – 17 Chwefror 1909).
Ganed ef yn aelod o gangen Bedonkohe o'r Apache, ger Turkey Creek, afon sy’n llifo i Afon Gila yn yr hyn sy’n awr yn dalaith New Mexico o’r Unol Daleithiau, ond a oedd bryd hynny yn swyddogol yn rhan o Fecsico. Priododd ferch o’r Chiricauhua, a chawsant dri o blant. Ar 5 Mawrth 1851, ymosododd 400 o filwyr o Sonora dan y Cyrnol Jose Maria Carrasco ar wersyll Geronimo gerllaw Janos pan oedd y dynion i ffwrdd yn masnachu. Lladdwyd ei wraig, Alope, ei blant a’i fam. Gyrroedd ei bennaeth, Mangas Coloradas, ef i ymuno â rhyfelwyr Cochise i geisio dial. Cafodd yr enw “Geronimo”, pan ymosododd ar filwyr Mecsico nes iddynt alw ar Sant Sierom am gymorth.
Nid oedd Geronimo yn bennaeth, ond daeth yn arweinydd milwrol pwysig iawn. Priododd eto nifer o weithiau, gan gael o leiaf dri plentyn. Ymladdodd yn erbyn México a’r Unol Daleithiau gyda chryn lwyddiant o 1858 hyd 1886, er bod eu milwyr yn llawer mwy niferus na’i ryfelwyr ef. Tua diwedd ei yrfa fel arweinydd, nid oedd ganddo ond 38 o wyr, gwragedd a phant, ond llwyddasant i osgoi cael eu dal gan 5,000 o filwyr yr Unol Daleithiau (chwarter y fyddin ar y pryd) ac unedau o fyddin México am flwyddyn. Ar 4 Medi 1886, ildiodd i’r cadfridog Nelson A. Miles yn Skeleton Canyon, Arizona.
Gyrrwyd Geronimo a’r rhyfelwyr eraill i Fort Pickens, Florida, a’i deulu i Fort Marion. Ail-unwyd hwy ym mis Mai 1887, pan drosglwyddwyd hwy i Mount Vernon, Alabama. Ym 1894, symudwyd hwy i Fort Sill, Oklahoma. Daeth Geronimo yn enwog, gan ymddangos yn Ffair y Byd 1904 yn St. Louis, a gwerthu lluniau ohono ei hun. Bu farw yn Fort Sill yn 1909 a claddwyd ef yno.
Yn 1905, cytunodd Geronimo i adrodd ei hanes i S. M. Barrett, a’i cyhoeddodd fel llyfr. Cyhoeddwyd ail-argraffiad gan Frederick Turner yn 1970.