Gertrude Atherton | |
---|---|
Ganwyd | 30 Hydref 1857, 14 Ionawr 1858 San Francisco |
Bu farw | 14 Mehefin 1948 San Francisco |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | nofelydd, ysgrifennwr, awdur ffeithiol, sgriptiwr, awdur |
Gwobr/au | Légion d'honneur |
Awdures Americanaidd oedd Franklin Horn Atherton (30 Hydref 1857 – 14 Mehefin 1948) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, awdur ffeithiol a sgriptiwr.
Fe'i ganed yn San Francisco ac yno hefyd y bu farw, o strôc.[1][2][3][4][5]
Lleolir llawer o'i nofelau yn y dalaith lle'i maged, sef Califfornia. Cafodd ei bestseller Black Oxen (1923) ei wneud yn ffilm ddistaw o'r un enw. Yn ogystal â nofelau, ysgrifennodd straeon byrion, traethodau, ac erthyglau ar gyfer cylchgronau a phapurau newydd ar faterion megis ffeministiaeth, gwleidyddiaeth a rhyfel. Roedd hi'n ferch benderfynol, yn annibynnol, ac weithiau'n ddadleuol, yn enwedig am ei daliadau gwrth-gomiwnyddol. [6][7]
Thomas Ludovich Horn oedd ei thad a Gertrude (Franklin) oedd ei mam. Ysgarodd y ddau pan oedd Gertrude yn ddwy oed. Fe'i magwyd gan thaid (ar ochr ei mam), sef Stephen Franklin, Presbyteriad pybyr a pherthynas i Benjamin Franklin.[8][9]
Mynnodd ei thaid ei bod yn darllen yn eang, hyd yn oed pan oedd yn ifanc iawn. Bu'n ddisgybl yn ysgol uwchradd St. Mary's Hall yn Benicia, California, ac am gyfnod byr yn Sayre School yn Lexington, Kentucky. Oherwydd ei bod yn tipyn o rebel, gwrthododd ei modryb, lle arhosai i'w chynnal rhagor, a bu'n rhaid iddi ddychwelyd i Kentuckey at ei thaid. Yno, cyfarfu â George H.B. Atherton, mab Faxon Atherton, a oedd mewn cariad a'i mam.[9] Ond o dipyn i beth, trodd sylw George o'r fam i'r ferch! Derbyniodd ei gynnig i briodi a phodd y ddau at ei mam-yng-nghyfraith, Dominga Atherton, a oedd yn berchennog ar Atherton Mansion yn San Francisco a'u stad "Fair Oaks". Ond yna, bu farw eu mab Geirge o difftheria ac yna bu farw ei gŵr. Trosglwyddodd ei mam-yng-nghyfraith yr arian a oedd am ei adael i'w mab iddi, ac edrychodd ar ôl ei merch Muriel gan ei magu.
Cyhoeddiad cyntaf Atherton oedd The Randolphs of Redwood: A Romance, a gyhoeddodd fel cyfres yn The Argonaut ym Mawrth 1882 dan y ffugenw Asmodeus. Pan ddatgelodd i'w theulu mai hi oedd yr awdur, fe cafodd ei diarddel. Ym 1888, gadawodd i Efrog Newydd, gan adael Muriel gyda'i mam-gu. Teithiodd i Lundain, ac yn y pen draw dychwelodd i Galifornia. Cyhoeddwyd nofel gyntaf Atherton, What Dreams Mai Come, ym 1888 dan y ffugenw Frank Lin.
Yn 1889, aeth i Baris ar wahoddiad ei chwaer-yng-nghyfraith Alejandra Rathbone (priod Lawrence Lawrence Rathbone). Y flwyddyn honno, clywodd gan y cyhoeddwr Prydeinig G. Routledge and Sons y byddent yn cyhoeddi ei dau lyfr cyntaf. Ysgrifennodd William Sharp yn The Spectator gan ganmol ei gwaith llenyddol ac yn ddiweddarach byddai'n gwahodd Atherton i aros gydag ef a'i wraig, Elizabeth, yn South Hampstead.[10]
Yn Llundain, cafodd y cyfle drwy Jane Wilde i gwrdd â'i mab, Oscar Wilde. Cofnododd yn ei bywgraffiad Adventures of a Novelist (1932) ei bod gwedi esgus i osgoi'r cyfarfod oherwydd ei bod yn meddwl fod Wilde yn gorfforol atgas.
Dychwelodd i Galiffornia yn 1890 ar farwolaeth ei thad-cu Franklin a'i mam-yng-nghyfraith Dominga Atherton, ac ailddechreuodd ofalu am Muriel.
Bu'n aelod o Academi Celfyddydau a Llythyrau America am rai blynyddoedd.