Joe Allen

Joe Allen

Allen yn 2012
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnJoseph Michael Allen[1]
Dyddiad geni (1990-03-14) 14 Mawrth 1990 (34 oed)
Man geniCaerfyrddin, Cymru
Taldra1.68m
SafleCanol Cae
Y Clwb
Clwb presennolStoke City
Rhif4
Gyrfa Ieuenctid
1999–2007Dinas Abertawe
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2007–2012Dinas Abertawe130(7)
2008Wrecsam (benth.)2(1)
2012–2016Lerpwl91(4)
2016-Stoke City8(4)
Tîm Cenedlaethol
2005–2006Cymru dan 1710(1)
2006–2007Cymru dan 194(0)
2007–2011Cymru dan 2114(2)
2009–Cymru33(2)
2012Prydain Fawr5(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 15 Hydref 2016 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 6 Hydref 2016 (UTC)

Pêl-droediwr Cymreig yw Joe Allen (ganwyd Joseph Michael Allen 14 Mawrth 1990) sy'n chwarae i Stoke City yn Uwchgynghrair Lloegr ac i dîm cenedlaethol Cymru.

Dechreuodd Allen ei yrfa broffesiynol gyda Dinas Abertawe ar ôl ymuno ag adran ieuenctid y clwb yn naw mlwydd oed[2]. Llwyddodd i ennill dyrchafiad o'r Adran Gyntaf i Uwchgynghrair Lloegr gydag Abertawe cyn symud i Lerpwl yn 2012 am ffi o £15 miliwn[3].

Yng Ngorffennaf 2016 symudodd Allen i Stoke City am ffi o £13m[4].

Roedd Allen yn aelod o garfan Cymru gyrhaeddodd rownd gynderfynol Euro 2016 a cafodd ei enwi yn Nhim y Twrnament gan UEFA[5].

Gyrfa clwb

[golygu | golygu cod]

Dinas Abertawe

[golygu | golygu cod]

Roedd Allen yn aelod o adran ieuenctid Dinas Abertawe ers yn naw mlwydd oed[2] a gwaneth ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm cyntaf yn 16 mlwydd oed yn erbyn Port Talbot yn y Gwpan Genedlaethol[6]. Gwnaeth Allen ei ymddangosiad cyntaf yn y Gynghrair fel eilydd yn erbyn Blackpool ar 5 Mai 2007[7].

Wedi i Abertawe sicrhau dyrchafiad i'r Bencampwriaeth yn 2008, methodd Allen a sicrhau ei le yn y tîm ac aeth ar fenthyg i Wrecsam[8] lle sgoriodd yn ei ymddangosiad cyntaf cyn anafu ei ffêr yn ei ail gêm a gorfod dychwelyd i'r Swans[9][10].

Chwaraeodd ran allweddol yn ystod tymor 2010-11 welodd Abertawe yn sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth dros Reading yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley. Ar ddechrau tymor 2011-12, arwyddodd Allen gytundeb newydd gydag Abertawe[11] a chwaraeodd 36 o 38 gêm y clwb yn yr Uwch Gynghrair.

Lerpwl

[golygu | golygu cod]

Ar 10 Awst 2012 ymunodd Allen â Lerpwl am £15m gan ddilyn y rheolwr, Brendan Rodgers o Abertawe i Anfield[12]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r Cochion ar 18 Awst 2012[13] a sgoriodd ei gôl gyntaf i'r clwb yn erbyn Oldham Athletic yng Nghwpan FA Lloegr.

Stoke City

[golygu | golygu cod]

Ar 25 Gorffennaf 2016, ymunodd Allen â Stoke City ar gytundeb pum mlynedd am ffi o £13m[14]

Gyrfa ryngwladol

[golygu | golygu cod]

Enillodd Allen ei gap cyntaf dros Gymru wrth ddod i'r maes fel eilydd yn y fuddugoliaeth dros Estonia ym Mharc y Scarlets, Llanelli ym Mawrth 2009[15] ac arweiniodd ei wlad am y tro cyntaf yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Iseldiroedd ar 4 Mehefin, 2014. Roedd yn aelod o garfan Cymru lwyddodd i gyrraedd rownd gynderfynol Euro 2016 a cafodd ei enwi yn Nhîm y Twrnament gan UEFA[5].

Cafodd Allen wobr Chwaraewr y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2012.[16]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae Allen yn briod â Lacey ac mae ganddynt fab o'r enw Archie. Mae brawd Joe, Harry Allen, yn aelod o dîm pêl-droed byddar Cymru ac, o'r herwydd, mae Joe yn llysgennad i'r elusen, Action on Hearing Loss.[17]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Search 1984 to 2006 – Cyfeirlyfr Geni, Priodi a Marw". Findmypast.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-02. Cyrchwyd 2009-06-16.
  2. 2.0 2.1 "South Wales Evening Post". 2012-08-01. Text "url" ignored (help); Unknown parameter |http= ignored (help); Missing or empty |url= (help)
  3. "Liverpoolfc.tv". 2012-08-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-11. Cyrchwyd 2014-05-16.
  4. "Joe Allen: Stoke City sign Liverpool midfielder in £13m transfer". BBC Sport. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. 5.0 5.1 "UEFA EURO 2016 Team of the Tournament revealed". UEFA.com. 2016-07-11. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Port Talbot 2–1 Swansea (aet)". BBC Sport. BBC Sport. 2007-01-15.
  7. "Swansea 3–6 Blackpool". BBC Sport. 2007-05-05.
  8. "Swan Allen joins Wrexham on loan". BBC Sport. 2008-10-07.
  9. "Wrexham 3–1 York". BBC Sport. 2008-10-07.
  10. "Joe likely to be out for several weeks". Wrexham F.C. 2008-10-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-25. Cyrchwyd 2016-08-11.
  11. "Joe Allen spurred by new Swansea City contract". BBC Sport. 2011-08-10.
  12. "Joe Allen signs for Liverpool FC – LFC News – Liverpool FC". Anfield Online. 2012-08-10.
  13. "Baggies condemn Reds to nightmare start". ESPN Soccernet. 2012-08-18.
  14. "Potters Pounce For Allen". Stoke City. 2016-07-25.
  15. "Wales v. Estonia Welsh Football Online". 2009-03-30. Unknown parameter |published= ignored (help)
  16. "Sgorio: Joe Allen yw chwaraewr y flwyddyn". 2012-10-09. Unknown parameter |published= ignored (help)
  17. "Welsh football star officially unveiled as charity ambassador". Action on Hearing Loss. 2015-03-16. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-08. Cyrchwyd 2016-08-11. Unknown parameter |published= ignored (help)