Julio Argentino Roca

Julio Argentino Roca
Ganwyd17 Gorffennaf 1843 Edit this on Wikidata
San Miguel de Tucumán Edit this on Wikidata
Bu farw19 Hydref 1914 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Colegio del Uruguay (Concepción del Uruguay, Argentina) Edit this on Wikidata
Galwedigaethswyddog milwrol, diplomydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd yr Ariannin, Arlywydd yr Ariannin, Aelod o Siambr Seneddwyr yr Ariannin, Aelod o Siambr Seneddwyr yr Ariannin, Aelod o Siambr Seneddwyr yr Ariannin, ambassador of Argentina to Brazil Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolNational Autonomist Party Edit this on Wikidata
TadJosé Segundo Roca Edit this on Wikidata
MamMariosol odetto Edit this on Wikidata
PriodClara Funes de Roca Edit this on Wikidata
PlantJulio Argentino Pascual Roca Edit this on Wikidata
llofnod

Milwr a gwleidydd a fy'n Arlywydd yr Ariannin oedd Alejo Julio Argentino Roca (17 Gorffennaf 184319 Hydref 1914).

Yn 1877, enwyd Roca yn Weinidog dros Ryfel, a daeth i'r casgliad mai'r unig ddull o ddeilio a'r brodorion oedd eu lladd neu eu gyrru o'u tiroedd. Pasiwyd deddf i ymestyn y ffin hyd afonydd Negro, Neuquén ac Agrio. Dechreuodd y gyfres gyntaf o ymgyrchoedd, rhan o'r hyn sy'n cael yr enw Concwest yr Anialwch, yn niwedd 1878. Yn Ebrill 1879 dechreuodd yr ail gyfres o ymgyrchoedd, gyda 6,000 o filwyr, gan gyrraedd Choele Choel ac yna ymlaen at y Río Negro a'r Afon Neuquén. Pan ddaeth Roca yn Arlywydd, aeth yr ymgyrchoedd yn eu blaenau dan y cadfridog Villegas.

Roedd perthynas dda rhyngddo a'r Cymry yn y Wladfa. Bu anghydfod rhwng y Cymry a'r llywodraeth, oedd yn mynnu bod pob dyn o oed milwrol yn drilio bob dydd Sul. Nid oedd y Cymry yn gwrthod drilio fel y cyfryw, ond yr oeddynt yn amharod i wneud ar y Sul. Carcharwyd rhai ohonynt, ond yn y diwedd cafwyd cyfaddawd wedi i Roca ei hun gymeryd diddordeb yn y mater.