Enghraifft o'r canlynol | Lleng Rufeinig |
---|---|
Lleoliad | Rhaphanaea |
Sylfaenydd | Iŵl Cesar |
Gwladwriaeth | Rhufain hynafol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Lleng Rufeinig oedd Legio III Gallica. Fe'i ffurfiwyd gan Iŵl Cesar yn 49 neu 48 CC; mae'r Gallica yn awgrymu iddi gael ei ffurfio yng Ngâl. Ei symbol oedd y tarw.
Ffurfiwyd y lleng i ymladd dros Cesar yn y rhyfel cartref yn erbyn Pompeius, ac ymladdodd ym mwydrau Pharsalus a Munda. Wedi llofruddiaeth Cesar, daeth yn un o lengoedd Marcus Antonius.
Ymladdodd dros Antonius, Augustus a Lepidus aym Mrwydr Philippi. Ymladdodd yn erbyn y Parthiaid dan Marcus Antonius yn 36. Wedi i Augustus ennill Brwydr Actium yn erbyn Antonius, symudodd y lleng i Syria, gyda Legio VI Ferrata, Legio X Fretensis a Legio XII Fulminata. Raphana oedd ei chanolfan yno. Yn 63, ymladdodd dan Gnaeus Domitius Corbulo yn erbyn y Parthiaid, yna symudwyd y lleng i Moesia.
Yn 69, Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr, cefnogodd y lleng Otho, yna wedi ei farwolaeth ef, cefnogodd Vespasian. Bu gan y lleng ran bwysig yn Ail Frwydr Bedriacum, pan orchygwyd byddin Vitellius, gan sicrhau'r orsedd i Vespasian. Wedi buddugoliaeth Vespasian, dychwelwyd y lleng i Syria. Ymladdodd rhai o filwyr y lleng yn erbyn Simon bar Kochba (132-135), ac yn erbyn y Parthiaid dan Lucius Verus yn 162.
Bu gan Legio III Gallica ran bwysig yn hanes yr ymerawdwr Elagabalus. Hwy a'i cyfarchodd fel ymerawdwr gyntaf yn 218. Yn 219, cefnasant ar Elagabalus i gefnogi Verus. Wedi lladd Verus, dad-sefydlodd Elagabalus y lleng. Fodd bynnag, ail-sefydlwyd hi gan ei olynydd, Alexander Severus, a'i dychwelyd i Syria. Ceir y cyfeiriad olaf at y lleng yno yn 323.