Rhanbarthau Seland Newydd

Rhennir Seland Newydd yn 16 o ranbarthau sy'n gweithredu fel y lefel uchaf o lywodraeth leol. Gweinyddir 11 o'r rhanbarthau gan gynghorau rhanbarthol (haen uchaf llywodraeth leol), a 5 yn cael eu gweinyddu gan awdurdodau unedol, sef awdurdodau tiriogaethol (ail haen llywodraeth leol) sydd hefyd yn cyflawni swyddogaethau cynghorau rhanbarthol. Yn ogystal â'r rhanbarthau, mae Cyngor Ynysoedd Chatham, er nad yw'n rhanbarth, yn gweithredu yn debyg i awdurdod unedol, wedi'i awdurdodi o dan ei ddeddfwriaeth ei hun.[1][2]

Daeth y rhanbarthau a'r rhan fwyaf o'u cynghorau i fodolaeth yn 1989 fel rhan o ddiwygio llywodraeth leol. Disodlodd y cynghorau rhanbarthol fwy na 700 o gyrff gweinyddol a ffurfiwyd yn y ganrif flaenorol. Yn ogystal, ymgymerasant â rhai cyfrifoldebau a gyflawnasid cynt gan gynghorau sir.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "2013 Census definitions and forms: U" (yn Saesneg). Statistics New Zealand. Cyrchwyd 30 Ebrill 2014.
  2. "Glossary". localcouncils.govt.nz (yn Saesneg). Department of Internal Affairs. Cyrchwyd 30 Ebrill 2014.