Math | pentref |
---|---|
Poblogaeth | 291 |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Mýrdalshreppur |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Cyfesurynnau | 63.419444°N 19.009722°W |
Y pentref Vík (IPA:ˈviːk); neu, o roi ei enw llawn, Vík í Mýrdal yw'r pentref mwyaf deheuol yng Ngwlad yr Iâ. Fe'i lleoliad ar hyd Ffordd 1, gylchffordd genedlaethol, (Þjóðvegur 1 neu Hringvegur yn Islandeg) tua 180 km (110 mi) o bellter o'r brifddinas, Reykjavík. Vík yw prif aneddiad bwrdeisdref Mýrdalshreppur.
Er gwaethaf ei maint bychan (poblogaeth o 291 yn Ionawr 2011) dyma'r ganolfan boblogaeth fwyaf o fewn dalgylch o rhyw 70 km (43 mi) ac mae'n fan aros bwysig, felly, fe'i cyfeirir ati ar arwyddion ffyrdd gryn bellter i ffwrdd. Mae'n ganolfan wasanaethau bwysig i'r stribed o dir arfordirol rhwng Skógar a rhan orllewinnol gwaelodion y rhewlif Mýrdalssandur.
Mae'r pentref yn boblogaidd gyda thwristiaid a thripiau daearegol.
Yn 1991, nododd y cylchgrawn Islands Magazine mai traeth Vik oedd un o'r traethau mwyaf prydferth yn y byd oherwydd ei tywyd basalt du. Mae'r clogwyni i'r gorllewin o'r traeth yn gartref i lawer o adar môr, yn fwyaf amlwg yw'r pâl sy'n nythu yn gloddio cafn bychan yn y pridd bas yn ystod y tymor nythu. Oddi ar yr arforfir gwelir stactiau basalt sy'n weddillion o glogwyni Reynisfjall, bu unwaith llawer helaethach ond sydd bellach yn cael ei erydu gan y môr. Nid oes tir rhwng Vik ac Antarctica a gall tonnau enfawr yr Iwerydd ymosod ar yr arfordir agored â'u holl grym.
Yn ôl llên gwerin, mae troliau (tylwyth teg, trolls) yn byw - ysbryd ydynt o bystogwyr a geisiodd lusgo eu cychod allan i'r môr ond iddynt foddi yn y môr. O gofio natur wyllt a pheryglus y môr, gwelir cofeb ar y traeth er cof am y morwyr a foddwyd dros y blynyddoedd.
Effeithiwyd y pentref gan ludo llosgfynydd enwog Eyjafjallajökull yn 2010.[1][2][3]
Gorwedd Vík yn syth i'r de o rewlig Mýrdalsjökull, sydd ei hun ar ben llosgfynydd Katla. Dydy Katla heb ffrwydro ers 1918, gan fod hyn yn gyfnod hirach na'r arfer i fod yn segur, mae disgwyl iddi ffwydro'n fuan. Gallai ffrwydrad gan Katla doddi digon o iâ a fyddai'n sbarduno llifogydd enfawr gan foddi a difetha'r pentref gyfan. Credir mai eglwys Vik yw'r unig adeilad sydd digon uchel i fyny'r tir i osgoi effaith y fath lifogydd.[4] O ganlyniad i hyn, mae trigolion Vík yn cynnal ymarferion dril i ddianc i'r eglwys pan ceir arwydd o ffrwydriad.
Mae gan y dref 1,400 ystafell westy ar gyfer gwyddonwyr a thwristiaid sydd hefyd yn cael ei briffio am beryglon Katla.[5]
Cyflwynwyd statws man masnachu swyddogol i'r pentref gan lywodraeth Denmarc yn 1874 (rheolwyr Gwlad yr Iâ gan Ddenmarc nes hunanlywodraeth yn 1918).
Ym mis Awst 1964 a haf 1965 fe lansiodd asiantaeth gofod Ffrainc, y CNES ddau roced sain, teip Dragon 1 o esgynfa symudol. Cyrhaeddodd y rocedau uchder rhwng 420 km a 451 km yn y gofod.
|
|deadurl=
ignored (help)