William Bidlake | |
---|---|
Ganwyd | 12 Mai 1861 Wolverhampton |
Bu farw | 6 Ebrill 1938 Wadhurst |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | pensaer |
Adnabyddus am | Mortuary Chapel, Handsworth Cemetery |
Gwobr/au | Cymrawd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain |
Pensaer Seisnig oedd William Henry Bidlake (12 Mai 1861 – 6 Ebrill 1938), ffigwr arweiniol yn y Mudiad Celf a Chrefft ym Mirmingham a Cyfarwyddwr yr Ysgol Pensaerniaeth yn Ysgol Celf Birmingham rhwng 1919 a 1924.
Ymddangosodd nifer o dai Bidlake yn ardal Birmingham yn llyfr Hermann Muthesius Das englischer Haus ("Y Tŷ Seisnig"), a brofodd yn ddylanwadol yn y Symudiad Cyfoes yn yr Almaen.
Ganed Bidlake yn Wolverhampton, yn fab i bensaer lleol, George Bidlake (a roddodd iddo ei hyfforddiant pensaernïol cynnar), a chafodd ei addysg yng Ngholeg Tettenhall a Choleg Crist, Caergrawnt. Ym 1882 symudodd i Lundain i astudio yn Ysgollion yr Academi Frenhinol a gweithiodd i'r benseiri yr Adfywiad Gothig, Bodley a Garner. Yn 1885, enillodd Gymrodoriaeth Teithio Pugin RIBA am ei ddrafftsmonaeth, a alluogodd ef i wario 1886 yn teithio yn yr Eidal.
Dychwelodd i Loegr yn 1887 gan fyw ym Mirmingham ar ei ben ei hun, o 1893, arloesodd dysgu pensaernïaeth yng Ngholeg Celf Birmingham. Roedd yn enwog am ei aml-deheurwydd; ei dric oedd i ddarlunio gyda'i ddwy law yn gydamserol.
Dyluniodd Bidlake nifer o dai dan ddylanwad y Mudiad Celf a Chrefft yn yr ardaloedd o gwmpas Birmingham megis Edgbaston, Moseley a Four Oaks, ynghyd â chyfres o eglwysi â dylanwad Gothig megis Eglwys Santes Agatha, Sparkbrook; caiff yr eglwys hon ei hystyried yn gyffredinol fel campwaith Bidlake.
Priododd Bidlake ddynes dros ugain mlynedd yn ifengach nag ef yn 1924, a symudodd i Wadhurst yn Nwyrain Sussex, lle cariodd ymlaen i weithio hyd ei farwolaeth yn 1938.