Anax parthenope | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Teulu: | Aeshnidae |
Genws: | Anax |
Rhywogaeth: | A. parthenope |
Enw deuenwol | |
Anax parthenope (Sélys, 1839[1]) Original genus: Aeshna |
Gwas neidr ydy'r Ymerawdwr bach (Lladin: Anax parthenope; Saesneg:lesser emperor), yn nheulu'r Aeshnidae. Mae'n frodorol o Dde Ewrop, gogledd Affrica ac Asia. Mae i'w gael yng Nghymru.
Mae'r rhywogaeth hwn yn llai ac yn llai lliwgar na'r Ymerawdwr. Pan fo'n hedfan mae'n eitha tebyg i A. imperator ond fod yr A. parthenope yn dueddol o ddal ei abdomen yn sythach na'r A. imperator. Pan welir gwas neidr eitha mawr yn hedfan - gydag abdomen crwm, mae'n debygol mai A. imperator ydyw yn hytrach na'r A. parthenope. Ceir cyfrwy gals ar S2 ac S3 ar yr A. parthenope a gellir eu gweld hyd yn oed tra'n hedfan. Brwon ydy gweddill yr abdomen. Ceir ychydig o felyn ar waeld S2. Gwyrdd yw lliw'r llygad. Weithiau, mae'n ymddangos yn debyg i A. ephippiger ond fod hwnnw ychydig yn llai o ran hyd ac yn deneuach, a llygad brown nid gwyrdd.