![]() Poster sinema'r ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Ben Stiller |
Cynhyrchydd | Scott Rudin Ben Stiller Stuart Cornfeld |
Ysgrifennwr | Sgript gan: Drake Sather Ben Stiller John Hamburg Stori gan: Drake Sather Ben Stiller |
Serennu | Ben Stiller Owen Wilson Will Ferrell Christine Taylor Milla Jovovich Jerry Stiller Jon Voight |
Cerddoriaeth | David Arnold |
Sinematograffeg | Barry Peterson |
Golygydd | Greg Hayden |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Village Roadshow Pictures VH1 Films Red Hour Productions |
Dyddiad rhyddhau | 28 Medi, 2001 Dosbarthwyr Paramount Pictures |
Amser rhedeg | 89 munud[1] |
Gwlad | Yr Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Mae Zoolander yn ffilm gomedi ddychanol 2001 Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Ben Stiller ac sy'n serennu Stiller, Owen Wilson a Will Ferrell. Cynhwysa'r ffim elfennau o bâr o ffilmiau byr a gyfarwyddwyd gan Russell Bates ac ysgrifennwyd gan Drake Sather a Stiller ar gyfer rhaglenni teledu arbennig y Gwobrau Ffasiwn VH1 yn 1996 ac 1997. Cynhwysa'r ffilmiau byr a'r ffilm ei hun model gwrywaidd twp o'r enw Derek Zoolander, a chwaraeodd gan Stiller. Dilyna'r ffilm Zoolander wrth iddo gael ei ddarbwyllo i lofruddio Prif Weinidog Maleisia gan weithredwyr llygredig. Mae'r enw "Derek Zoolander" yn gyfansoddair cywasgedig o enwau dau fodel gwrywaidd a weithiodd i Calvin Klein: yr Iseldirwr Mark Vanderloo a'r Americanwr Johnny Zander.[2][3]
Derbyniodd y ffilm adolygiadau positif gan y beirniaid ac roedd yn llwyddiant yn y sinemâu. Rhyddhawyd dilyniant, Zoolander 2, ar 12 Chwefror, 2016.[4]
Cynhwysa'r ffilm ymddangosiadau cameo gan Donald a Melania Trump, Victoria Beckham, Emma Bunton, Christian Slater, Tom Ford, Cuba Gooding, Jr., Steve Kmetko, Tommy Hilfiger, Natalie Portman, Anne Meara, Fabio Lanzoni, Lenny Kravitz, Maggie Rizer, Gwen Stefani, Gavin Rossdale, Heidi Klum, Mark Ronson, Paris Hilton, David Bowie, Tyson Beckford (yn siarad), Fred Durst, Lance Bass, Lil' Kim, Garry Shandling, Stephen Dorff, Sandra Bernhard, Claudia Schiffer, Veronica Webb, Lukas Haas, Carmen Kass, Frankie Rayder, Karl Lagerfeld, Winona Ryder (yn ddi-gredyd), Billy Zane, Irina Pantaeva, a Donatella Versace.